
Iechyd meddwl a llesiant cyflogeion - Coronafeiws
Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd a phryder sylweddol, atgoffir cyflogeion a rheolwyr fod y gwasanaeth rheoli straen a chwnsela ar gael i gynorthwyo ag iechyd meddwl a llesiant bob cyflogai.
Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae'r gwasanaeth wedi paratoi i wella sgiliau'r gweithlu a datblygu'r gwasanaeth i sicrhau y gall gynnig cymorth i gyflogeion pan fydd angen hynny.
Bydd y gwasanaeth yn darparu:
- Mynyediad cyflym a rhwydd at wasanaeth cwnsela dros y ffôn a chymorth trwy ôl-drafodaeth.
- Bydd atgyfeiriadau yn ymwneud â staff rheng flaen a/neu coronafeirws yn cael eu blaenoriaethau, a byddwn yn galw staff yn ôl o fewn 24 awr.
- Gall rheolwyr gysylltu â'r gwasanaeth i drefnu ôl-drafodaethau/cyswllt wythnosol ynghylch iechyd meddwl a lles ag aelodau eu timau rheng flaen i ddatblygu cydnerthedd a sicrhau y caiff cyflogeion eu cynorthwyo yn ystod y cyfnod ansicr sydd ar ddod.
- Atgoffir rheolwyr y dylid cysylltu â phob cyflogai yn wythnosol i'w holi am eu lles ac y dylid eu cyfeirio at y gwasanaeth rheoli straen os canfyddir fod eu heichyd meddwl a'i lles yn cychwyn dirywio.
- Gall y gwasanaeth hefyd gynnig sesiynau ôl-drafodaeth ynghylch digwyddiadau tyngedfennol i unrhyw gyflogai sy'n prif unrhyw ddigwydiadau trawmatig neu'n dyst i hynny. Bydd ôl-drafodaeth ynghylch digwyddiadau tyngedfennol yn cael eu cynnal o fewn 24 awr ar ôl cael atgyfeiriad.
Ar gyfer hunangyfeirio neu atgyfeiriadau gan reolwyr neu geisiadau am sesiynau ôl-drafodaeth ynghylch iechyd meddwl â lles cyflogeion, cysylltwch â:
Liz Thomas-Evans
Prif Gynghorydd a Chwnselydd Rheoli Straen
01792 636027
There are lots of things you can try that could help your wellbeing - find out more on the Mind website: www.mind.org.uk/information-support/coronavirus-and-your-wellbeing/