Diweddariad ynghylch coronafeirws ar gyfer staff - 1 Ebrill 2020
Diweddariad ynghylch canmoliaeth ar gyfer staff y Cyngor.
Mae staff Cyngor Abertawe wedi cael eu canmol am achub bywydau a sicrhau fod y ddinas yn dal i redeg yn ystod argyfwng Coronafeirws.
Mae'r Cyngor wedi ymateb i'r argyfwng trwy weddnewid ei ddull o weithio er mwyn diwallu anghenion newidiol y cyhoedd, gan gynnwys miloedd o bobl fregus y mae'r Llywodraeth wedi'u gorchymyn i aros yn eu cartref am y 12 wythnos nesaf.
Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor: "Mae'n rhaid i mi ganu eu clodydd am eu hymrwymiad a'u parodrwydd i addasu i sefyllfa sy'n newid yn ddyddiol. Rwy'n falch iawn o'u hymateb ac fe hoffwn i ddiolch o galon i bawb ohonynt."
Mae llawer o wasanaethau hanfodol megis casglu sbwriel, gwasanaethau cymdeithasol, cartrefi gofal ac atgyweirio cartrefi ar frys yn parhau yn wyneb pwysau enfawr, ac mae cannoedd o staff eraill yn gwneud gwaith sy'n wahanol i'r arfer i gynorthwyo cymunedau lleol a phobl agored i niwed.