Diweddariad ynghylch coronafeirws ar gyfer staff - 2 Ebrill 2020
Diweddariad ynghylch seibrddiogelwch a'r post.
Seibrddiogelwch
Wrth i filoedd o staff Cyngor Abertawe weithio gartref yn ystod y wythnosau sy'n dod oherwydd yr achosion o goronafeirws, mae'n fwy tebygol y byddant yn profi rhywfaint o broblemau diogelwch/ I ddiogelu pawb ohonom ni, gellir lawrlwytho taflen arweiniad ynghylch Gweithio Gartref o Staffnet.
Post
Mae staff yr ystafell bost yn parhau i brosesu gohebiaeth a dderbynnir ac a anfonir. Os bydd angen argraffu gohebiaeth a'i rhoi mewn amlenni, gellir gwneud hyn trwy law'r ystafell bost. Fodd bynnag, yn sgil y cyfyngiadau staffio, sicrhewch os gwelwch yn dda mai dim ond gohebiaeth hanfodol a brys sy'n cael ei phrosesu ar yr adeg hon.
Ffoniwch Rachel Mabula ar 636032 i drafod y trefniadau ar gyfer hyn. Os bydd arnoch chi angen anfon dros 20 eitem o ohebiaeth, cysylltwch â Designprint@swansea.gov.uk, a fydd yn gallu prosesu'r ceisiadau hyn.