Y diweddaraf Coronafeirws i staff - 6 Mai 2020
#YmaIAbertawe
Ni ddylai staff sydd wedi bod yn gweithio gartref yn ystod pandemig Coronafeirws ddychwelyd i'r gwaith yn eu lleoliad arferol heb ganiatâd eu rheolwyr llinell.
Cafwyd rhai enghreifftiau o staff yn dychwelyd i'w lleoliadau arferol. Ar hyn o bryd, dim ond y rheini â rolau hanfodol y mae'n rhaid iddynt fynd i'w lleoliad arferol ar gyfer cyfarfodydd sy'n cael gwneud hynny.
Dylai staff sy'n gweithio gartref barhau i gyfathrebu'n rheolaidd â'u rheolwr a'u cydweithwyr, cymryd seibiannau rheolaidd ac osgoi bod 'ar gael' yn ystod amser nad yw'n amser gweithio.
Dylech hefyd sicrhau eich bod yn cymryd camau i edrych ar ôl eich iechyd a'ch lles, gan gynnwys rheoli eich gorsaf waith eich hun a chyfarpar arall rydych chi'n ei ddefnyddio i weithio.
Gydag arweiniad eich rheolwr llinell, sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:
- ystyried eich amgylchedd gwaith, eich iechyd a'ch lles
- adolygu'ch hunanasesiad Cyfarpar Sgrîn Arddangos ac ailedrych ar yr hyfforddiant CSA ar-lein i sicrhau eich bod yn gweithio'n ddiogel
- sicrhau bod gennych y cyfarpar cywir er mwyn i chi allu gweithio gartref, a'i fod wedi'i osod yn y ffordd gywir
- cytuno ar drefniadau monitro, rhaglenni gwaith a thargedau
- sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i ddarparwyr cyfleustodau, cwmnïau yswiriant a darparwyr morgeisi am eich bwriad i weithio gartref
- cytuno ar oriau gwaith
- cytuno ar gytundebau contract, a all golygu cysylltiad rheolaidd dros e-bost a chadarnhau amserau dechrau a gorffen
- trafod a oes angen i chi fod yn bresennol yn y swyddfa ar gyfer cyfarfodydd tîm a hyfforddiant neu i gyflenwi ar gyfer cynnydd yn y llwyth gwaith
- ystyried unrhyw weithdrefnau sy'n wahanol i bobl sy'n gweithio gartref
Mae arweiniad iechyd a diogelwch ychwanegol ar gael drwy staffnet yn www.swansea.gov.uk/staffnet/healthandsafety
Mae rhagor o wybodaeth ar gael dan adran 'working from home' y cwestiynau cyffredin i staff yn https://www.swansea.gov.uk/staffcoronavirusFAQs