
Ydy'r Cyngor yn defnyddio Cytundebau Fframwaith?
Pan fo'n briodol, ar gyfer nwyddau a gwasanaethau penodol gall y cyngor weithredu cytundebau fframwaith gyda nifer o gyflenwyr lle gall y cyngor 'ddiddymu' y nwyddau a'r gwasanaethau hynny ar gostau y cytunwyd arnynt, ar yr adeg briodol.
Mae cytundebau fframwaith yn nodi'r amodau a thelerau bras y seilir y penderfyniad i ddiddymu contractau arnynt. Gall fod gan gytundebau fframwaith un cyflenwr neu gyflenwyr lluosog ac am hyd at 4 blynedd.
Bydd y broses o ddewis cyflenwyr o fewn y cytundebau hyn yn ddarostyngedig i'r holl reolau sy'n llywodraethu hysbysebu, gwahoddiadau i dendro, cymhwyster ac ailwerthusiad fel y nodir uchod. Efallai y bydd dewis y cyflenwr ar gyfer contract penodol dan gytundeb fframwaith yn amodol ar gystadleuaeth bellach, mae hyn yn golygu cynnal ymarfer ymysg y cyflenwyr a benodwyd i'r cytundeb fframwaith
Mae'r cyngor hefyd yn defnyddio fframweithiau o gonsortia prynu eraill megis y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC), Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS) ac ESPO i brynu nwyddau a gwasanaethau er mwyn sicrhau'r gwerth gorau.
Systemau Prynu Deinamig (DPS)
Mae'r DPS yn debyg i gytundeb fframwaith ond mae'n caniatáu i gyflenwyr newydd ymuno ar unrhyw adeg yn ystod y DPS, cyn belled â bod y cyflenwr yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dewis. Mae proses wahanol i'w dilyn ar gyfer y DPS a bydd y cyngor yn glir o fewn dogfennau tendro os yw'n defnyddio un o'r cytundebau hyn, ac yn rhoi arweiniad llawn i gyflenwyr.