Datganiadau i'r wasg Awst 2020
Tân trên cludo nwyddau a gollyngiad diesel ger Llangennech
https://naturalresources.wales/about-us/news-and-events/news/llangennech-freight-train-derailment-and-diesel-spill/?lang=cy

Disgyblion yn dechrau dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf
Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gyda'i holl ysgolion i gynllunio bod pob disgybl yn gallu dychwelyd yn drefnus ac yn ddiogel i'r ysgol yr wythnos nesaf.
Peidiwch â thaflu sbwriel dros benwythnos gŵyl y banc
Mae Cyngor Abertawe'n annog preswylwyr ac ymwelwyr i gadw ein traethau a'n parciau'n rhydd o sbwriel dros benwythnos gŵyl y banc.

Gwaith gwerth £13.8m wedi cychwyn i ailwampio ysgol
Mae gwaith wedi cychwyn ar fuddsoddiad gwerth £13.8m mewn adeiladau a chyfleusterau newydd a gwell yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.

Joiwch eich Gŵyl y Banc yn Abertawe. Ond byddwch yn gyfrifol
Anogir ymwelwyr a phreswylwyr sy'n edrych ymlaen at ddiwrnod allan dros Ŵyl y Banc i fwynhau Abertawe'n gyfrifol y penwythnos hwn.

Y ddinas yn dymuno'n dda i'r gantores Justine ar gyfer rownd derfynol The Voice Kids
Mae disgybl hynod dalentog o Abertawe a ganodd yr anthem ar gyfer dathliadau pen-blwydd y ddinas yn 50 oed y llynedd wedi cyrraedd rownd derfynol The Voice Kids a fydd ar y teledu nos Sadwrn.

Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn ymateb i dros 20,000 o ymholiadau yn ystod y pandemig
Yn ystod y pum mis diwethaf, mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol Cyngor Abertawe, ochr yn ochr ag aelodau cymunedol, wedi ymateb i fwy nag 20,000 o ymholiadau a cheisiadau am help gan bobl a oedd yn ynysu neu'r rheini yr oedd angen help arnynt.

Rhaglen fuddsoddi gwerth £150m i drawsnewid ysgolion
Mae rhagor o adeiladau ysgol newydd yn cael eu codi ar draws Abertawe wrth i addysg gael ei thrawsnewid dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Pum llyfrgell ychwanegol yn Abertawe'n ailddechrau gwasanaethau.
Mae pobl sy'n dwlu ar ddarllen yn cael cyfle i archebu llyfrau unwaith eto mewn pum llyfrgell gymunedol ychwanegol yn Abertawe.

Ceidwaid yn gwneud eu gorau glas i gadw ymwelwyr canol y ddinas yn ddiogel
Mae Ceidwaid Canol y Ddinas wedi bod yn gwneud eu gorau glas i gefnogi ymwelwyr a busnesau yng nghanol y ddinas ers i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, gan gerdded dros 389 o filltiroedd.

Y dewis ynghylch prydau ysgol am ddim yn cael ei estyn nes i ffreuturau ailagor
Bydd rhieni a gofalwyr yn parhau i gael dewis ynghylch sut maent yn cael gafael ar gefnogaeth prydau ysgol am ddim pan fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi.
Tîm PATCH yn dod i'ch ardal chi
Mae rhaglen atgyweirio ffyrdd deithiol Abertawe wedi dechrau mynd o gwmpas y ddinas wrth i gyfyngiadau symud Coronafeirws gael eu llacio fwyfwy.

Diolch i staff am ymateb i ofynion pobl fu'n gwarchod
Diolchwyd i staff sydd wedi bod yn cynnal cefnogaeth Cyngor Abertawe ar gyfer miloedd o bobl sydd wedi bod yn gwarchod am eu hymdrechion yn ystod y misoedd diweddar.
Peiriannau talu newydd yn cael eu gosod ym meysydd parcio talu ac arddangos y cyngor
Bydd peiriannau talu newydd yn cael eu gosod mewn meysydd parcio talu ac arddangos ar draws y ddinas dros yr wythnosau i ddod.

Gwirio cyn cadw lle ar gyfer eich pryd o fwyd Estyn Llaw drwy Fwyta Allan
Mae Safonau Masnach Abertawe'n rhybuddio cwsmeriaid i wirio cyn iddynt gadw lle i sicrhau eu bod nhw'n cael y pris gostyngol a gynigir dan gynllun newydd Estyn Llaw drwy Fwyta Allan Llywodraeth y DU.

Ymunwch â'r ymgais i rannu gemau plant traddodiadol o bob cwr o'r byd
Mae preswylwyr y ddinas sy'n mwynhau'r haf yn ddiogel wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio yn cael eu hannog i ychwanegu ychydig o hwyl ychwanegol drwy rannu gemau plant traddodiadol o wlad arall â phlant yn Abertawe.

Rhaglen chwaraeon arobryn yn ei hôl.
Mae ein rhaglenni a gweithgareddau chwaraeon arobryn Us Girls a ParkLives yn eu hôl ar gyfer gwyliau'r haf.

Grantiau bellach ar gael i gefnogi Men's Sheds
Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi prosiectau Men's Sheds yn y ddinas gyda'r £25,000 o arian grant sydd ar gael i grwpiau eleni.

Mae'r gwasanaeth cofrestryddion wedi ailagor ar gyfer priodasau a chofrestriadau genedigaethau
Mae gwasanaeth cofrestryddion prysur Abertawe wedi ailagor ar gyfer priodasau a chofrestriadau genedigaethau ar ôl gohirio'r gwasanaeth am fwy na thri mis o ganlyniad i'r pandemig.

Siop Trysorau'r Tip yn mynd ar-lein
Mae Trysorau'r Tip, un o gyrchfannau siopa mwyaf poblogaidd Abertawe o ran chwilio am fargeinion, yn mynd ar-lein.

Cefnogaeth fwyd amgen ar gael i bobl sy'n gwarchod
Bydd pobl yn Abertawe sydd wedi bod yn derbyn blychau bwyd wythnosol wrth warchod yn cael cynnig cefnogaeth amgen pan ddaw'r cyfnod gwarchod i ben yr wythnos nesaf.

Gwaith i wella morglawdd y Mwmbwls gam yn agosach
Mae ymgynghorydd arobryn â phrofiad helaeth mewn mentrau amddiffynfeydd arfordirol ledled y DU yn ymuno â Chyngor Abertawe ar gyfer menter newydd.

Estyniad ysgol i leihau maint dosbarthiadau babanod
Mae gwaith wedi dechrau ar estyniad yn Ysgol Gynradd Hendrefoelan yn Abertawe a fydd yn lleihau nifer y disgyblion mewn dosbarthiadau babanod

Lluniau plant yn dod â gwên i wynebau pobl sy'n gwarchod
Mae plant mewn un ardal o Abertawe wedi bod yn defnyddio'u sgiliau artistig i roi gwên ar wynebau rhai preswylwyr diamddiffyn neu ynysig yn eu cymuned.
Sut mae preswylwyr sy'n gwarchod wedi goroesi'r pandemig drwy wneud ymarfer corff
Mae cannoedd o breswylwyr diamddiffyn sydd mewn perygl o deimlo pwysau ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau symud wedi cael help i wneud ymarfer corff er mwyn gwella'u lles.

Mae lletygarwch dan do wedi dechrau'n ddiogel - gadewch i hyn barhau
Mae Arweinydd Cyngor Abertawe wedi canmol busnesau a phreswylwyr am eu hymdrechion wrth sicrhau bod lletygarwch dan do'n dychwelyd yn ddiogel ar draws y ddinas.

Cynlluniau adfywio ar gyfer hen fanc yng nghanol y ddinas
Mae cynlluniau wedi'u cyhoeddi i drawsnewid hen adeilad masnachol adnabyddus yng nghanol dinas Abertawe.

Masnachu yn yr awyr agored: Hwb newydd i ddiwydiant lletygarwch Abertawe
Cyngor Abertawe wedi rhoi hwb newydd i'r diwydiant lletygarwch.

"Mae eich iechyd yn bwysig" meddai staff canolfannau hamdden wrth iddynt baratoi i ailagor
Bydd canolfannau hamdden ledled Abertawe, gan gynnwys yr LC, yn ailagor yr wythnos nesaf, a bydd y staff yn canolbwyntio ar groesawu eu cwsmeriaid a sicrhau bod eu profiad yn un da.

Penwythnos cyntaf o letygarwch dan do - arhoswch yn ddiogel
Wrth i benwythnos cyntaf Abertawe o letygarwch dan do ers codi'r cyfyngiadau symud gyrraedd, mae neges 'arhoswch yn ddiogel' y ddinas yn cael ei hailadrodd.
Codi'r llenni! Golwg cyntaf ar sut y gall trysor hanesyddol gael ei adfywio
Datgelwyd cynlluniau i adfer ac addasu adeilad hanesyddol Theatr y Palas Abertawe.

Gwaith yn ystod y pandemig yn sicrhau y bydd golau'n parhau i ddisgleirio ar sêr y llwyfan
Bydd sêr a fydd yn camu ar lwyfan mawreddog yn Abertawe'n disgleirio pan fyddant yn dychwelyd - diolch i'r gwaith allweddol a wnaed yn ystod eu habsenoldeb.

Pobl fusnes ifanc yn derbyn cyfleoedd newydd diolch i brosiect cyllido torfol
Bydd menter newydd Cyllido Torfol Abertawe yn helpu pobl ifanc i feithrin eu sgiliau fel entrepreneuriaid.
Gwaith yn dechrau i ddod â chartrefi a rhagor o fusnesau i adeilad allweddol yng nghanol y ddinas
Caiff gwaith ailwampio gwerth miliynau o bunnoedd ei wneud ar adeilad allweddol yng nghanol dinas Abertawe, gan ddod â chartrefi newydd a rhagor o gyfleoedd busnes i Ffordd y Brenin.
Arbenigwyr adeiladu Abertawe'n dechrau gweithio ar safle hanesyddol
Mae cwmni yn Abertawe wedi symud i'r safle wrth iddo ddechrau adeiladu un o brosiectau adfywio allweddol y ddinas.

Adeiledd dur yr arena'n newid nenlinell Abertawe am byth
Mae nenlinell Abertawe wedi newid am byth wrth i sgerbwd dur enfawr arena dan do newydd y ddinas ac adeiladau cysylltiedig gael eu cwblhau.

Yn eisiau: Unigolion sy'n benderfynol o helpu i wella economi wledig Abertawe
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig i helpu i wella cymunedau gwledig Abertawe.
Newidiadau mawr yn dod â bywyd newydd i Ffordd y Brenin
Fis diwethaf agorodd system ffordd newydd.

Bydd Snow White and the Seven Dwarfsyn dod i Abertawe dros Nadolig 2021 ar ôl i'r pandemig ein gorfodi i ohirio sioe eleni.
Mae Qdos, cwmni cynhyrchu pantomeimiau pennaf y DU sy'n trefnu digwyddiadau Nadoligaidd mewn lleoliadau o gwmpas y wlad, wedi cytuno, mewn partneriaeth â Theatr y Grand Abertawe, i ohirio pantomeim eleni.

Beth sydd nesaf ar gyfer Cynllun Abertawe Ganolog - Cam Un sy'n werth £135m?
Gyda'r gwaith wedi'i gwblhau ar fframiau dur enfawr y prosiect, mae'r ffocws allweddol yn troi nawr at waliau haenog yr arena.
Cefnogwyr y banc bwyd ymhlith gwirfoddolwyr hanfodol
Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr gweithgar yn helpu pobl ddiamddiffyn ar draws ardal Gorseinon a Chasllwchwr drwy'r pandemig.

Gwledd i'r rheini sy'n dwlu ar fwyd ym Marchnad Dan Do Abertawe
Bydd y rheini sy'n dwlu ar fwyd sy'n ymweld â Marchnad Abertawe yn cael y cyfle i fwynhau cynnyrch lleol fel rhan o ymgyrch Estyn Llaw Drwy Fwyta Allan Llywodraeth y DU.
Lido'n ailagor - cofiwch fwynhau'n gyfrifol
Ailagorodd atyniad glan môr poblogaidd yn Abertawe heddiw.
Llys yn agor yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe
Mae ystafell lys dros dro wedi'i sefydlu yn siambr y cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe.
Gwella llif y traffig yng nghyfnewidfa Broadway
Mae gwaith ailwynebu dros nos yn cael ei gwblhau ar gyffordd brysur yn Abertawe mewn ymdrech i gwblhau cynllun gwella traffig mawr yn y ddinas.
Y cynnydd ymhlith ymwelwyr â chanol dinas Abertawe ymysg yr uchaf yn y DU
Mae'r cynnydd a gafwyd yn nifer yr ymwelwyr a'r gweithwyr sydd wedi dod i ganol dinas Abertawe yn yr ychydig wythnosau diwethaf ymysg yr uchaf a welwyd yn y DU.

Mae'n amser canolbwyntio ar y dyfodol - drwy anfon cerdyn post
Mae'r pandemig wedi golygu bod llai o gardiau post wedi cael eu hanfon - ond mae Abertawe ar fin newid hynny.

Lleoliad hanesyddol yn Abertawe'n cael ei anrhydeddu
Mae un o leoliadau diwylliannol mwyaf poblogaidd Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan y gwasanaeth teithio byd-eang, Tripadvisor
Staff yr oriel yn cynllunio gweithgareddau crefft i helpu plant drwy'r pandemig
Bydd plant o bob rhan o Abertawe'n cael chwe wythnos o haf artistig diolch i oriel yn y ddinas.

Caniatâd wedi'i roi i adeiladu neuadd eglwys newydd yng nghanol y ddinas
Mae caniatâd cynllunio wedi'i roi ar gyfer cyfleuster cymunedol newydd yng nghanol safle adfywio pwysig yn Abertawe.