
Maethu a Mabwysiadau
Allech chi roi cartref i blentyn mewn angen?
Mae maethu a mabwysiadu'n ffyrdd gwahanol o ddarparu cartref i blentyn nad yw'n gallu byw gyda'i deulu ei hunan. Mae maethu'n drefniad dros dro lle rhennir y gofal am blentyn â'r awdurdod lleol, ac mae mabwysiadu'n drefniad cyfreithiol parhaol.

Maethu Abertawe
Yn ailystyried eich gyrfa yn 2021? Mae Maethu Abertawe yn chwilio am ragor o ofalwyr ar gyfer arddegwyr.

Mabwysiadu Bae'r Gorllewin
Mae timau mabwysiadau o gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe wedi dod at ei gilydd i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu mwy a gwell.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Mabwysiadu a Maethu?
Mae'r termau 'Maethu' a 'Mabwysiadu' yn cael eu defnyddio gyda'i gilydd yn aml, ond maent yn cyfeirio at ddwy ffordd wahanol iawn o ofalu am blentyn...