Diweddariadau Coronafeirws i staff - 15 Hydref 2020
Y diweddaraf am resymau absenoldeb mewn perthynas â Coronafeirws.
Mae'n bwysig cofnodi pob absenoldeb sy'n ymwneud â Coronafeirws yn gywir, felly sefydlwyd codau er mwyn cofnodi absenoldebau a rhoi gwybod i reolwyr/penaethiaid.
Ar gyfer trefniadau absenoldebau arbennig:
Os gallwch gyrchu'r parth hunanwasanaeth, dylech gofnodi hwn trwy eich absenoldebau arfaethedig ar Oracle. Os nad oes gennych fynediad at Oracle, cwblhewch y ffurflen absenoldeb arbennig a'i rhoi i'ch rheolwr llinell i'w chadarnhau. Bydd angen ei hanfon i Dîm Trafodaethol y Gweithlu trwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost canlynol - Workforce.Transactional@abertawe.gov.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cyfeiriwch y rhain at Ddesg Gymorth y Ganolfan Gwasanaethau trwy e-bostio ServiceCentreHelpdesk@abertawe.gov.uk
Dylai ysgolion barhau i gofnodi pob absenoldeb yn y taflenni misol yn unol â gweithdrefnau adrodd arferol, gan sicrhau bod y codau perthnasol wedi'u nodi pan fyddant yn cael eu dychwelyd.
Sylwer nad ddefnyddir CV - Gwarchod, CV - Diamddiffyn na CV - Beichiog mwyach, ac mae'r rhestr wedi'i diweddaru'n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhestr isod yn cynnwys y rhesymau diweddaraf:-
CV - Ar gael i weithio
CV - Asesiad risg - uchel
CV - Hunanynusu - Wedi'i gynghori/cysylltu
CV - Hunanynysu - aelwyd
CV - Hunanynysu - ysgol ar gau
CV - Hunanynysu - POD
CV - Wedi'i gyfarwyddo i weithio gartref