Toglo gwelededd dewislen symudol

Defnyddio'r archifau

Gwybodaeth i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich ymweliad.

Neath Antiquarians
Tocynnau Darllenydd

Er mwyn gweld dogfennau gwreiddiol o'r casgliadau, bydd rhaid i chi gofrestru am docyn darllenydd Archifau Cymru. Gallwch gael tocyn ar eich ymweliad cyntaf, ond galwch chi gofrestru am docyn darllenydd ymlaen llaw.

Diogelwch yn yr ystafell ymchwilio

Am resymau diogelwch, ni chaniateir cotiau na bagiau yn yr ardal astudio. Mae loceri a rheslau cotiau cloadwy ar gael ar gyfer eich eiddo personol. 
Gofynnir i'n holl ymchwilwyr i ddilyn rheolau'r ystafell ymchwilio. Maen nhw i sicrhau diogelwch y dogfennau sydd o dan ein gofal. Cliciwch yma i ddarllen mwy am reolau'r ystafell ymchwilio
I weld arweiniad byr i'ch helpu i drin dogfennau'n gywir yn yr ystafell chwilio, cliciwch yma..

Beth mae angen i mi ddod gyda mi?

Gall fod yn ddefnyddiol dod â'r canlynol gyda chi i'r ystafell chwilio

  • Llyfr ysgrifennu
  • Pensil - sylwer ni chaniateir pinnau ysgrifennu yn yr ardal astudio
  • Camera i dynnu llun o ddogfennau (dim fflach)

Gallwch ddod â gliniadur os oes un gennych: mae gan nifer o fyrddau socedi trydan.