Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Taliadau trydydd parti ychwanegol (taliadau ychwanegol)

Mae rhai cartrefi gofal yn codi tâl sy'n uwch na'r swm arferol y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ei gyfrannu.

Yn aml, cyfeirir at yr uchafswm y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ei gyfrannu fel 'y costau arferol'. Os yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfrannu at ffioedd eich cartref gofal ac rydych yn dewis symud i gartref sy'n codi tâl uwch, telir y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn uniongyrchol i'r cartref gan drydydd parti, sydd fel arfer yn berthynas. Weithiau, cyfeirir at daliadau trydydd parti fel taliadau 'atodol'.

Beth mae taliad trydydd parti yn ei gynnwys?

Gallai'r rhesymau dros daliad trydydd parti amrywio o un cartref i'r llall. Er enghraifft, gallai cartref godi tâl ychwanegol ar gyfer ystafell sy'n uwchraddol nag ystafell safonol mewn rhyw ffordd. Fodd bynnag, gall taliad trydydd parti gwmpasu unrhyw beth a ddarperir gan gartref sydd y tu hwnt i'r 'costau arferol' y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu talu.

Cyn i chi lofnodi unrhyw gontract, dylai'r cartref ddarparu manylion ysgrifenedig ar eich cyfer yn y ddogfen Datganiad o Ddiben am yr holl daliadau mae'n bwriadu eu codi. Os bydd unrhyw beth nad yw'n glir neu nad ydych yn ei ddeall, dylech ofyn am gyngor.

Pwy sy'n gallu gwneud taliad trydydd parti?

Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, mae'n rhaid i'r taliad hwn gael ei wneud gan rywun ar wahân i chi neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'n gallu bod yn berthynas neu ffrind.

Y rheol gyffredinol yw na allwch ddefnyddio eich arian eich hun i ariannu taliad trydydd parti. 

Fodd bynnag, gallwch wneud taliad trydydd parti o'ch cyfalaf eich hun mewn amgylchiadau penodol, sef:

Argymhellwn eich bod yn ceisio cyngor ariannol a chyfreithiol os ydych yn ystyried yr opsiynau hyn. Siaradwch â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC) os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch ynghylch y trefniadau hyn.

Ar wahân i'r amgylchiadau hyn, nid oes unrhyw ganllawiau clir ynghylch yr hyn a ganiateir ym mhob sefyllfa a sut y gallwch ddefnyddio eich arian eich hun. Os bydd angen cyngor pellach arnoch ynghylch sut y gellir cyfrannu at ffioedd eich cartref gofal, gallwch drafod hyn gyda'ch rheolwr gofal.

Sut mae'r trefniadau'n gweithio?

Os byddwch yn symud i gartref gofal lle mae angen taliad trydydd parti, mae angen i'r person a fydd yn gwneud y taliad trydydd parti ar eich rhan lofnodi cytundeb gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol cyn i'r cytundeb gyda'r cartref gael ei lofnodi. Wrth wneud hynny mae'n rhaid iddynt gadarnhau bod ganddynt y modd ariannol i wneud taliadau trydydd parti (gan gynnwys unrhyw gynnydd yn y dyfodol) dros yr amser cyfan y byddwch yn byw yn y cartref.

Telir y cartref gofal yn uniongyrchol, bob mis fel arfer.

Mae gan yr Awdurdod Lleol bŵer i adennill cost y cyfraniad trydydd parti os byddant yn methu ag anrhydeddu'r cytundeb hwn. Os bydd y trydydd parti'n methu â chadw at yr ymrwymiad i dalu'r swm y cytunwyd arno, mae'n bosib y bydd angen i chi symud i gartref gofal newydd ble mae'r ffïoedd o fewn 'costau arferol' y Gwasanaethau Cymdeithasol.

A ellir gofyn am daliad trydydd parti ar ôl mynd i mewn i gartref gofal?

Os ydych eisoes yn breswylydd mewn cartref gofal ac ni ofynnwyd am gytundeb trydydd parti ar y pryd, gall y cartref geisio cyflwyno taliad trydydd parti nes ymlaen. Hefyd, os newidir eich trefniadau ar eich cais chi neu ar ôl i chi gytuno i hynny, er enghraifft, os ydych yn symud i ystafell o safon well, gall taliad trydydd parti ychwanegol fod yn daladwy.

Bydd newidiadau o'r fath yn gofyn am lunio cytundeb lleoliad newydd a chytundeb gan bob parti. Bydd hyn yn golygu bod y cytundeb gwreiddiol yn dod i ben ac y bydd hawl gennych i rybudd o 28 niwrnod mewn sefyllfa o'r fath.

Beth fydd yn digwydd os bydd ffïoedd y cartref gofal yn codi?

Mae'n arferol i'r ffïoedd a godir gan gartrefi gofal gynyddu bob blwyddyn. Mae'n bosib na fydd y swm y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ei gyfrannu godi yn ôl yr un gyfradd â'r cynnydd yn ffïoedd y cartref.

Gellir cynyddu elfen trydydd parti'r ffi unwaith y flwyddyn ariannol yn unig, ac yn fras, ni ddylai'r swm gynyddu mwy na 25% y flwyddyn. Dylech dderbyn o leiaf un mis o rybudd bod y taliad ar fin cynyddu. Bydd rhaid i'r person sy'n gwneud y taliad ar eich rhan lofnodi contract newydd gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol os bydd swm y taliad trydydd parti'n cynyddu.

Beth fydd yn digwydd os na allwn dalu taliad y trydydd parti?

Os bydd y person sy'n talu taliad y trydydd parti yn dechrau cael trafferth gyda'r trefniad, mae'n bwysig ei fod yn cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosib.

Fel y manylwyd arno yng Nghytundeb y Trydydd Parti, mae'n bosib y byddai'n rhaid i breswylydd y cartref gofal symud i lety arall o ganlyniad i hyn, yn amodol ar asesiad llawn o'i anghenion gofal. Unwaith y cysylltir â hwy, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn trefnu adolygiad o'r anghenion hynny a'r trefniadau ariannol ar gyfer cefnogaeth barhaus.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.

Tîm Incwm ac Arian Gofal Cymdeithasol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau manwl am eich asesiad ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol, neu os hoffech herio'r ffïoedd.
Close Dewis iaith