Atal Cwympiadau
Mae'r risg o gael anaf difrifol o gwymp yn cynyddu gydag oedran, ond gall bod ag ofn cwympo hefyd fod yn bryder mawr i rai pobl. Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i leihau'r risg o gwympo gartref.
Lleihau peryglon baglu
- Trefnwch gelfi fel nad ydynt yn eich ffordd pan fyddwch yn cerdded
- Cadwch fannau lle rydych yn cerdded, yn enwedig grisiau, yn glir ac yn daclus
- Symudwch rygiau neu gwnewch yn siŵr bod cefn di-slip ganddynt
- Gwnewch yn siŵr nad oes gwifrau neu geblau trydan yn llusgo
- Gwnewch yn siŵr fod cynfasau a blancedi gwely rhydd yn cael eu lapio i mewn
Defnyddiwch oleuadau'n effeithiol
- Gwnewch yn siŵr fod eich cartref wedi'i oleuo'n dda a bod bylbiau'n ddigon llachar
- Rhowch y goleuadau ymlaen cyn gynted ag y mae'n dechrau tywyllu
- Ceisiwch gael golau y gallwch ei roi ymlaen o'r gwely cyn i chi godi
- Os ewch chi i'r tŷ bach yn y nos, rhowch y golau ymlaen.
Symud yn ddiogel
- Cymerwch eich amser - peidiwch â rhuthro wrth fynd at y ffôn neu ateb y drws
- Codwch yn araf os ydych chi wedi bod yn eistedd neu'n gorwedd i lawr ers amser hir
- Defnyddiwch y canllaw wrth fynd lan a lawr y grisiau
- Defnyddiwch rheiliau gafael yn y bath neu gawod a ger y toiled
- Cysylltwch â Gofal a Thrwsio AbertaweYn agor mewn ffenest newydd os arnoch angen cyngor ynghylch addasiadau diogelwch. Ffoniwch 01792 798599
- Os nad oes gennych larwm Lifeline, ystyried cael un. Ffonwich 01792 648999
Meddyliwch am storio
- Cadwch eitemau - bwyd, potiau, padelli, dillad - rydych yn eu defnyddio'n rheolaidd mewn cypyrddau neu ar silffoedd sy'n hawdd eu cyrraedd heb blygu neu ymestyn.
- Os oes rhaid i chi gyrraedd rhywbeth ar lefel uwch, defnyddiwch ysgol risiau gadarn - peidiwch â sefyll ar gadair
Gwnewch yn fawr o'ch llygaid
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prawf llygaid yn rheolaidd
- Cofiwch wisgo'ch sbectol
- Os oes gennych ddau bâr ar gyfer gweithgareddau gwahanol, cofiwch eu newid fel y bo'r galw
Gofalwch am eich traed
- Torrwch ewinedd eich traed yn rheolaidd ac ewch i weld ciropodydd os oes angen
- Gwisgwch esgidiau sy'n ffitio'n dda ac yn cynnal eich traed
Cadwch yn actif
- Mae ymarfer corff ysgafn rheolaidd yn helpu gyda chryfder esgyrn a chyhyrau a chydbwysedd, ac mae'r rhain i gyd yn helpu i atal cwympiadau. Mae llawer o ddosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer pobl hŷn. Bydd Abertawe Actif yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu ar yr ymarfer corff gorau i chi.
Gwybodaeth bellach am Atal Cwympiadau
Mae gan Heneiddio'n Dda yng Nghymru lawer o wybodaeth i helpu pobl i leihau'r perygl o gwympo, gan gynnwys syniadau am ymarfer corff ysgafn i wella cryfder a chydbwysedd ac awgrymiadau i atal cwympo. Edrychwch ar yr Hwb Adnoddau Atal CwympoYn agor mewn ffenest newydd.
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe hefyd wedi cynhyrchu Arweinlyfr Atal CwympiadauYn agor mewn ffenest newydd mewn partneriaeth â PABM.