Diogelwch Nwy
Os oes gennych foeler neu beiriant nwy mae'n syniad da cael archwiliad diogelwch a gwasanaeth blynyddol.
Bydd hyn yn sicrhau nad ydych mewn perygl o gael eich gwenwyno gan garbon monocsid. Bydd y rhan fwyaf o beirianwyr gwresogi'n darparu'r gwasanaeth hwn, ond gwnewch yn siwr fod y person a ddefnyddir wedi'i gofrestru ar y gofrestr Gas SafeYn agor mewn ffenest newydd. Mae'n anghyfreithlon i bobl nad ydynt wedi'u cofrestru weithio ar beiriannau neu systemau nwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio taflen sy'n rhoi cyngor ar risgiau gwenwyn carbon monocsid a ffyrdd o'i atal.
Os byddwch yn arogli nwy, galwch 0800 111 999