Chwilio'r wefan
English

Stadiwm Liberty a Rheoli Adeiladu Abertawe

Roedd Adran Rheoli Adeiladu Abertawe'n rhan o'r tîm a fu'n gweithio i ddatblygu'r stadiwm.

The Liberty Stadium
Stand under construction
Aerial view of stadium and retail park
Preparing to lay the pitch
Hospitality area
The stadium from the footbridge
The Liberty Stadium
Stand under construction
Aerial view of stadium and retail park
Preparing to lay the pitch
Hospitality area
The stadium from the footbridge

Adeiladwyd y stadiwm ar safle hen Stadiwm Morfa a oedd yn gartref i Glwb Athletau Harriers Abertawe. Roedd pencampwriaethau athletau Cymreig a Phrydeinig yn cael eu cynnal yn Stadiwm Morfa, yn ogystal â llawer o gyngherddau pop a mathau eraill o adloniant.

Mae Stadiwm Liberty yn gallu cynnwys 20,000 o bobl ac mae'n gartref a rennir rhwng Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a thîm rygbi rhanbarthol y Gweilch. Bydd yn parhau i gynnal digwyddiadau cerddoriaeth ac adloniant mawr. Roedd dyluniad y stadiwm yn bwysig iawn, gan fod angen darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, yn ogystal â dau fath o chwaraeon gwahanol.

Cychwynnwyd y gwaith adeiladu ar ddechrau 2004 a chafodd ei gwblhau'n llwyddiannus mewn pryd ar gyfer dechrau tymhorau pêl-droed a rygbi 2005-06. Cynhaliwyd y gêm gyntaf yn y stadiwm rhwng Dinas Abertawe a Fulham ar 23 Gorffennaf 2005. Ar 13 Mai 2012, curodd Dinas Abertawe Lerpwl 1-0 i orffen eu tymor cyntaf yn Uwch-gynghrair Lloegr.

Bu syrfewyr Rheoli Adeiladu'n gwirio'r gwaith ar y stadiwm newydd yn rheolaidd, gan gynnig cyngor a chefnogaeth drwy gydol y broses adeiladu.

Enillodd Stadiwm Liberty'r wobr yng nghategori'r Cynllun Masnachol Mawr yng Ngwobrau 'Built in Quality' Abertawe 2005 a Gwobrau 'Built in Quality' De Cymru 2005. Cafodd ei enwebu hefyd yng nghategorïau Hygyrchedd/Blaengaredd Anabledd Gorau a'r Prosiect Masnachol Gorau yng Ngwobrau Cenedlaethol 'Built in Quality' 2005. Enillodd y stadiwm wobr am ddefnydd creadigol o dir yng Ngwobrau'r cylchgrawn Wales Business Insider a chafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr RICS Cymru.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM