Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Benthyciad Homefix

Mae'r benthyciad Homefix yn fenthyciad di-log gwarantedig i berchnogion a chanddynt ecwiti yn eu heiddo ond na allant fforddio ad-daliadau misol ar fenthyciad.

Mae gennym brosesau ar waith i sicrhau eich bod yn benthyca canran gyfyngedig o werth eich eiddo nad yw eisoes wedi'i sicrhau drwy unrhyw forgais neu fenthyciadau eraill sydd gennych yn unig.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

  • unrhyw berchennog tŷ dros 60 oed ac sy'n derbyn budd-dal prawf modd neu incwm isel (ar sail prawf modd)
  • unrhyw berchennog tŷ dros 18 oed sy'n derbyn budd-dal anabledd ac sy'n derbyn budd-dal prawf modd neu incwm isel (ar sail prawf modd)
  • mae'n rhaid i chi fod yn berchen ar y tŷ ac yn byw yno ers 3 blynedd, ac mae'n rhaid i'r adeilad fod dros 10 mlwydd oed
  • rhaid bod ecwiti ar gael ar eich eiddo er mwyn cyflwyno cais
  • rhaid bod gennych chi neu ar y cyd â'ch partner lai na £16,000 o gynilion

Gwaith ac atgyweiriadau cymwys

Bydd gwaith cymwys yn eitemau i'w trwsio sy'n ofynnol i alluogi'r preswylydd i fyw mewn cartref di-berygl ac o safon. Byddant yn cael eu nodi gan syrfëwr swyddogion y cyngor ac yn cael eu cytuno gan yr ymgeisydd. Y ffocws fydd cwblhau gwaith atgyweirio ac adnewyddu er mwyn sicrhau bod yr eiddo'n cydymffurfio â safonau rhesymol a sicrhau nad oes eitemau yn y tŷ sydd mewn cyflwr difrifol neu beryglus.

Yn ogystal, bydd ein syrfëwr yn gallu eich cynghori am waith cynnal a chadw cyffredinol a darparu costau bras. Bydd ef neu hi hefyd yn ystyried effeithlonrwydd ynni ac os oes angen, yn eich cyfeirio at Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cymru (un o'n partneriaid) i helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon deuocsid.

Os ydych yn gymwys byddwn yn trefnu i un o'n swyddogion wneud apwyntiad i lenwi'r ffurflen gais ac egluro'r broses i chi.

Ar ôl i chi gytuno i'r gwaith, byddwn yn cysylltu â'r adran gyfreithiol a'r prisiwr i gadarnhau unrhyw fenthyciadau gwarantedig ar eich eiddo a gwerth cyfredol yr eiddo er mwyn i ni benderfynu faint o fenthyciad i'w gynnig. Os byddwch yn tynnu'n ôl o'r broses bryd hynny, mae'n bosib y byddwch yn gorfod ad-dalu ffïoedd i ni.

Bydd angen i chi gytuno ar swm y benthyciad a chytuno i'r tâl sy'n cael ei roi ar eich cofnod cofrestrfa tir.

Unwaith y bydd y benthyciad wedi'i drefnu byddwn yn trefnu i'r gwaith gael ei wneud a byddwn yn talu'r adeiladwyr unwaith y byddant yn hapus ag ansawdd y gwaith.

Symiau benthyciad

Y benthyciad lleiaf fydd £3,000.

Mae'r uchafsymiau'n dibynnu ar yr ecwiti ond hyd at £25,000 ar gwblhau'r gwaith (gan gynnwys 20% arall ar gyfer eitemau annisgwyl) a bennir drwy ddefnyddio bandiau eiddo a chanrannau gosodedig i gyfrifo'r ecwiti y gall y cleient fenthyca yn ei erbyn fel a nodir isod:

  • eiddo o dan £60,000: 50% o'r ecwiti rhydd
  • eiddo rhwng £60,000 a £100,000: 40% o'r ecwiti rhydd
  • eiddo dros £100,000: 30% o'r ecwiti rhydd

Mewn achosion arbennig o gyflwr difrifol, lle na fyddai'n briodol gadael y tŷ wedi'i atgyweirio'n rhannol (er enghraifft gwaith a gwblhawyd a allai ddirywio, neu adael y tŷ mewn cyflwr anniogel) mae'n bosib cynyddu uchafswm y benthyciad i £30,000, ynghyd â ffïoedd, yn ôl disgresiwn y cyngor.

Ad-daliad

Caiff y benthyciad ei gofrestru yn dâl cyfreithiol i'w ad-dalu wrth werthu neu drosglwyddo'r teitl, (neu os bydd yr ymgeisydd yn symud i ofal tymor hir neu lety lloches), a'i gyfrif fel swm y benthyciad gwreiddiol a roddwyd wedi'i ddidynnu o bris y gwerthu ar adeg yr adbryniant. I ymgeiswyr ar y cyd, bydd y benthyciad yn daladwy ar farwolaeth y benthyciwr olaf i oroesi (neu os bydd y benthyciwr olaf i oroesi yn symud i ofal tymor hir neu lety lloches).

Mae'r benthyciadau Homefix a ddarperir gennym wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer perchnogion cartrefi nad ydynt efallai'n gallu cael benthyciad gan fanc neu gymdeithas adeiladu ar y stryd fawr. Mae'r holl becynnau benthyciadau a gynigir gennym yn seiliedig ar amgylchiadau unigol.

Cofiwch wirio a fydd y benthyciad yma'n addas i'ch anghenion os ydych am symud neu werthu'ch cartref neu os ydych am i'ch teulu ei etifeddu. Os nad ydych yn siŵr, dylech geisio cyngor annibynnol.

Gwneud cais

Cysylltwch â'n tîm grantiau tai Tîm Grantiau Tai

Close Dewis iaith