Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeiladau peryglus

Rydym yn mynd i'r afael ag adroddiadau am adeiladau neu adeileddau peryglus. Gall hyn fod yn unrhyw beth o lechen rydd ar do i ansefydlogrwydd mawr a achoswyd gan dân.

Pan fo'n bosib gofynnir i'r perchnogion wneud y strwythur yn ddiogel. Mae pwerau argyfwng ar gael er mwyn cwblhau gwaith pan fydd perygl difrifol.

Waliau gardd

Dylid archwilio waliau'r ardd a waliau ffin o bryd i'w gilydd i weld a oes angen unrhyw atgyweiriadau, neu a oes angen ailadeiladu wal. Mae'r waliau hyn ymhlith y mathau mwyaf cyffredin o waith maen i gwympo, ac yn anffodus, dyma un o'r achosion mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganlyniad i waith maen sy'n cwympo. 

Mae'n bosib na fydd eich yswiriant yn ddilys os bydd eich wal wedi cael ei esgeuluso.

Adrodd am adeiledd peryglus

Os byddwch yn gweld rhywbeth rydych yn credu ei fod yn beryglus, cysylltwch â ni:

Oriau swyddfa (8.30am - 5.00pm dydd Llun i ddydd Iau, 8.30am - 4.30pm dydd Gwener) - 01792 635636.

Y tu allan i oriau swyddfa - 01792 636000.

Close Dewis iaith