Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith craffu?

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yr hoffech gymryd rhan mewn gwaith craffu, mae sawl ffordd y gallwch wneud hyn.

Cynhelir cyfarfodydd craffu'n rhithwir ar hyn o bryd a chaiff pob un ohonynt ei recordio a'i lawrlwytho ar wefan y cyngor.

Dod i gyfarfod

Mae holl gyfarfodydd y byrddau craffu'n agored i'r cyhoedd.

Cynhelir Pwyllgor y Rhaglen Graffu bob mis. I weld dyddiadau'r cyfarfod hwn, ewch i  galendr cyfarfodydd y cyngor (Yn agor ffenestr newydd).

Mae llawer o'r cyfarfodydd hyn ar gael ar-lein. Mae rhai ohonynt yn digwydd yn ystafelloedd pwyllgor y Ganolfan Ddinesig. Mae manylion y lleoliad a'r agenda ar gael ar ddyddiadur y cyngor yn yr wythnos cyn y cyfarfod. Mae cofnodion ac agendâu Pwyllgor y Rhaglen Graffu hefyd ar gael ar dudalen strwythur y pwyllgorau.

Cyfarfodydd anffurfiol yw cyfarfodydd y Panel Craffu. I weld dyddiadau unrhyw un o gyfarfodydd y panel, ewch i  galendr cyfarfodydd y cyngor (Yn agor ffenestr newydd).

Mae holl agendâu, llythyrau ac adroddiadau cyfarfodydd y Panel i'w gweld ar dudalen strwythur y pwyllgor (Yn agor ffenestr newydd).

Os hoffech fynd i gyfarfod o'r Panel Craffu, ffoniwch y tîm craffu ar 01792 637732.

Ymgynghoriad

Yn ystod cam casglu tystiolaeth ymchwiliad, ymgynghorir ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn cael tystiolaeth. Mae manylion ein holl ymgynghoriadau i'w gweld ar y tudalennau Lleisiwch eich barn. Rydym hefyd yn hysbysebu ymgynghoriadau drwy'r Blog Craffu, datganiadau i'r wasg neu yn y papur newydd lleol.

Neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm craffu.

Gwneud cais am graffu

Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn ninas a sir Abertawe wneud cais am graffu ar faterion sy'n peri pryder lleol.

Codi mater i graffu arno Hoffech chi godi mater gyda chraffu?

Close Dewis iaith