Agoriad Mawreddog Glynn Vivian
Bydd Oriel Gelf eiconig Glynn Vivian yn Abertawe'n ailagor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn 15 Hydref yn dilyn prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd.
Bydd ardaloedd newydd ar gyfer darlithoedd, gwaith cadwraeth arbenigol, arddangosiadau teithiol ac arddangos casgliadau ymysg y gwelliannau y gall ymwelwyr edrych ymlaen at eu gweld.
Bydd estyniad o'r safon orau'n cysylltu â'r adeiladau hanesyddol, gan gynnwys oriel restredig gradd dau sy'n dyddio o 1911, sydd wedi elwa o waith adfer cyflawn a gwelliannau i gyfleusterau a mynediad. Bydd hyn i gyd yn sicrhau bod Oriel Gelf Glynn Vivian yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae storfa gasglu newydd ar gyfer gwaith celf hefyd wedi'i hychwanegu, yn ogystal â mynedfa gwbl hygyrch sy'n golygu y bydd mwy o bobl nag erioed yn gallu cael mynediad gwell i'r gweithiau celf.
Bydd yr ailddatblygu'n cynnwys:
- Gwaith cadwraeth i'r adeilad Gradd II* rhestredig a agorwyd ym 1911
- Mynedfa newydd a siop ar lefel y stryd
- Ail-ddylunio estyniad yr oriel a adeiladwyd ym 1974 ac adeiladu strwythur cysylltu gwydr newydd
- Lifft newydd i bobl i ganiatáu mynediad llawn i'r holl arddangosfeydd a'r orielau casgliadau ac i bob cyfleuster addysg ac astudio yn ogystal ag ardaloedd eraill
- Mwy o le i ddangos casgliadau ac arddangosfeydd
- Ardal storio a chadwraeth fwy hwylus er mwyn datblygu casgliadau yn y dyfodol
- Ardaloedd technegol newydd a swyddfeydd gweinyddol
- Adnewyddu'r ystafell addysg bresennol a gwella'r cyfleusterau i weithio gyda cholegau ac ysgolion a'n cyfranogwyr
- Darlithfa ac ystafell gymunedol newydd
- Llyfrgell a chanolfan archifau pwrpasol at ddibenion ymchwil ymwelwyr
- Caffi newydd a siop gyda mynediad wi-fi
Ariannwyd y prosiect ailddatblygu ac adfer gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Sicrhawyd arian hefyd trwy gynllun grant y Rhaglen Gwella Adeiladau sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.
I lansio dathliadau'r penwythnos agoriadol, mae saith artist wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol i baratoi Gorymdaith Agoriadol fawreddog i groesawu pawb yn ôl i'r Glynn Vivian ac i'r adeilad newydd.