Glynn Vivian yn Cynnwys y Gymuned
Trwy ein rhaglenni Dysgu Oddi ar y Safle, rydym yn parhau i ddatblygu ein mentrau allgymorth a datblygu cynulleidfaoedd, cynyddu cyfranogiad a chysylltu â phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau.
Nod ein rhaglenni dysgu yw meithrin sgiliau creadigol cynulleidfaoedd a dangynrychiolir, er enghraifft, pobl ifanc ddiamddiffyn, pobl dros 55 oed, diwylliannau amrywiol, oedolion ag anableddau a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn Abertawe.
Pobl dros 55 oed
Nod y grŵp i bobl dros 55 oed yw gwella mynediad pobl hŷn i'r celfyddydau.

Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig
Rydym yn cynnig gweithdai a dargedir a thrafodaethau ymarferol yn seiliedig ar thema teithiau Richard Glynn Vivian i bedwar ban y byd.

Oedolion ag Anableddau Dysgu
Rydym yn darparu cyfleoedd i bobl fod yn rhan o amrywiaeth o brofiadau bywyd a gwaith gwerthfawr a fydd yn eu helpu i fod yn fwy annibynnol, i gymryd rhan, i gael eu gwerthfawrogi a bod yn aelodau actif yn y gymuned.

Allgymorth
Mewn partneriaeth â Chymunedau'n Gyntaf rydym yn cynnig rhaglen allgymorth cyhoeddus actif sy'n mynd allan i'r gymuned ehangach i rannu hannes Richard Glynn Vivian, ein casgliad a'n rhaglen arddangosfeydd cyfoes gyda chymaint o bobl â phosib.