Pobl dros 55 oed
Nod y grŵp i bobl dros 55 oed yw gwella mynediad pobl hŷn i'r celfyddydau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chartrefi gofal preswyl, cynlluniau llety lloches a lleoliadau yn y gymuned i gynnig sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i'n cenhedlaeth hŷn.
Nod y grŵp yw hyrwyddo annibyniaeth, hyder cymdeithasol, sgiliau creadigol a chydlyniant cymunedol, trwy amgylchedd cefnogol i hen aelodau ac aelodau newydd.
Cynhelir sesiynau wythnosol ar brynhawn ddydd Mercher rhwng 1.00-3.00pm, ac maent yn cynnwys ymweliadau â'r oriel, gweithdai, sgyrsiau a digwyddiadau.