Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ffitrwydd ar hyd y Prom

Mae'r llwybr ffitrwydd ar hyd Prom Abertawe'n gylched ymarfer corff sy'n berffaith i'r rhai sy'n mwynhau'r awyr iach, ymarfer corff yn yr awyr agored neu sy'n teimlo'n anghyfforddus yn y gampfa.

Gellir defnyddio'r cyfarpar hwn ar gyfer amrywiaeth o ymarferion a all wella cydbwysedd, cryfder a chydsymud ac mae am ddim i bawb ei ddefnyddio.

Mae'r cyfarpar yn wych ar gyfer amrywio rhedeg neu gerdded ar hyd y prom wrth weithio ar rannau gwahanol o'r corff. Gallwch hefyd stopio wrth fynd â'r ci am dro.

Mae'r llwybr ffitrwydd yn 4km/2.5 milltir o hyd ac yn mynd o ganol y ddinas i Blackpill. Gallwch ddechrau'r llwybr o'r naill gyfeiriad ac edrychwch am ddisgiau ar y llawr sy'n eich helpu i ddeall pa mor bell rydych wedi cerdded, beicio neu redeg.

Cofiwch nad oes rhaid i chi gwblhau'r cyfan mewn un tro, dechreuwch yn araf a datblygu dros nifer o wythnosau.

Cyfarpar

Peiriant Sgïo Bach

  • Gweithgaredd hyfforddi - Symudedd
  • Mae'n hyfforddi'r cluniau
  • Mae'n helpu i ffyrfhau'r canol, y cluniau a'r morddwydydd
  • Mae'n gwella cydsymud cyffredinol y corff

Peiriant Herio Tynnu i Lawr

  • Gweithgaredd hyfforddi - cryfder
  • Mae'n hyfforddi'r breichiau a'r ysgwyddau
  • Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau rhannau uchaf y corff; y cefn, yr ysgwyddau a'r cyhyrau deuben
  • Mae'n gwella hyblygrwydd ac ystwythder cymalau

Eisteddiadau

  • Gweithgaredd hyfforddi - cryfder
  • Mae'n hyfforddi'r stumog a'r cefn
  • Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau'r abdomen a sefydlogrwydd craidd

Peiriant Cerdded er Iechyd

  • Gweithgaredd hyfforddi - Symudedd
  • Mae'n hyfforddi cyhyrau'r coesau
  • Mae'n rhoi manteision cardiofasgwlaidd a hyblygrwydd ardderchog
  • Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau yn y coesau ac yn gwella cydsymud

Peiriant Ymestyn y Coesau

  • Gweithgaredd hyfforddi - Ymestyn
  • Mae'n helpu i ddatblygu cydbwysedd a hyblygrwydd
  • Mae'n ddelfrydol cyn unrhyw ymarfer corff go iawn

Peiriant Gwthio Pwer

  • Gweithgaredd hyfforddi - cryfder
  • Mae'n hyfforddi'r cyhyrau deuben a thriphen
  • Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau rhannau uchaf y corff; y frest, yr ysgwyddau, y cyhyrau triphen
  • Mae'n gwella'r cymalau a chydsymud y corff

Gwthio Dwylo

  • Gweithgaredd hyfforddi - Symudedd
  • Mae'n hyfforddi'r ysgwyddauMae'n helpu i ddatblygu cydsymud wrth wella hyblygrwydd ac ystwythder y cymalau

Cwch Dolenni (Peiriant rhwyfo)

  • Gweithgaredd hyfforddi - Cryfder
  • Mae'n helpu i ddatblygu cyhyrau'r cefn, y breichiau, y coesau a'r abdomen
  • Mae'n gwella hyblygrwydd ac yn rhoi manteision cardiofasgwlaidd a ffyrfhau i bawb

Pwysig

  • Byddwch yn defnyddio'r cyfarpar hwn ar eich menter eich hun. Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n derbyn cyfrifoldeb am unrhyw anaf a achosir wrth ddefnyddio'r cyfarpar.
  • Peidiwch â defnyddio'r cyfarpar os ydych yn meddwl ei fod yn ddiffygiol neu wedi torri.
  • Argymhellir i'r rhai dros 14 oed
  • Dylech gael cyngor eich meddyg cyn defnyddio'r cyfarpar ymarfer corff hwn os nad ydych yn iach neu os ydych wedi'ch anafu neu'n feichiog.
  • Peidiwch â defnyddio hwn oni bai eich bod yn deall sut mae ei ddefnyddio'n ddiogel.
  • Defnyddiwch y cyfarpar at y diben arfaethedig yn unig.
  • Ni ddylai unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol ddefnyddio'r cyfarpar.
  • Defnyddiwch y cyfarpar â pharch a stopiwch pan fyddwch wedi blino.

I roi gwybod am faterion cynnal a chadw, ffoniwch 01792 280210.

Close Dewis iaith