Chwilio'r wefan
English

Richard Glynn Vivian

Enwyd yr oriel ar ôl ei sefydlydd a phrif gymwynaswr, Richard Glynn Vivian, a anwyd ym mis Medi 1835, pedwerydd mab John Henry Vivian a'i wraig Sarah Jones.

Richard Glynn Vivian

Roedd teulu'r Vivians yn berchen ar y gweithfeydd copr mwyaf yn Abertawe, y prif ganolfan mwyndoddi copr ar y pryd. John Henry Vivian a oedd yn rheoli'r cwmni, ac roedd hefyd yn weithredol ym masnach a datblygiad Abertawe. Roedd yn wyddonwr ymarferol, yn ddeallus, ac yn aelod blaenllaw o'r gymdeithas leol.

Magwyd Glynn Vivian ar ystâd y teulu, Singleton (Campws Prifysgol Abertawe bellach). Yn wahanol i'w dad a'i frodyr hŷn a dderbyniodd addysg wyddonol, aeth Glynn Vivian o Eton i Goleg y Drindod, Caergrawnt, ac enillodd radd yn y celfyddydau.

Pan fu farw ei dad ym 1855, etifeddodd Glynn Vivian chwarter o Vivian & Sons, ond dewisodd beidio â bod yn rhan weithredol yn y cwmni.  Roedd ei dri brawd yn bartneriaid actif, yn wahanol iddo ef. Yn hytrach, dewisodd ddilyn ei ddiddordebau pennaf, sef teithio dramor a'r celfyddydau.  Teithiodd yn helaeth ac yn anturus, gan gadw cofnodion clir o'i deithiau. Mae'r oriel hon yn cynnwys albymau o'i frasluniau a ffotograffau.

Wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, treuliodd fwy a mwy o amser yn Ewrop - erbyn 1887 gwnaeth ddatgan, mewn llythyr at ei frawd, mai Munich oedd ei gartref yn ystod y gaeaf.  Anaml y dychwelai i'w gartref yn Llundain yn Sgwâr Eton, a phrin iawn i Abertawe. 

Ym 1885 yn Llysgenhadaeth Prydain ym Mharis, priododd â Laura Craigie Halkett, merch cyn gwas sifil o Bengal.  Nid oedd y briodas yn llwyddiant a gwahanodd y pâr yn gyfreithiol ym 1888.

Caniataodd yr incwm a dderbyniai Glynn Vivian gan fusnes y teulu, iddo fwydo ei ddiddordeb o gasglu celf.  Yn ogystal â'r swfenîrs o'i deithiau, daeth yn gasglwr difrifol o baentiadau a chelfyddyd gymhwysol, yn enwedig cerameg.  Roedd yn ffrind ac yn noddwr i'r artist Ffrengig, Gustave Doré (a fu farw ym 1883), ac ym 1885, prynodd baentiadau yn helaeth yn arwerthiant stiwdio'r artist ym Mharis.  Yn ystod y deng mlynedd wedi gorffen ei briodas, parhaodd Glynn Vivian i deithio, yn Ewrop yn bennaf, gan ymweld â stiwdios, orielau ac arwerthiannau. Cofnododd ei bryniadau yn ei ddyddiaduron, gan nodi'r pris a'i darddiad yn fanwl, ac yn aml roedd yn cynnwys braslun bach iawn ond manwl; mae gan nifer o'r eitemau labeli yn ei lawysgrifen ef o hyd.

Ym 1898, pan oedd yn 63 oed, dychwelodd Glynn Vivian i Abertawe a phrynodd Neuadd Sgeti, tŷ sy'n sefyll o hyd ar gornel Parc Singleton.  Gwariodd ei arian a'i gariad ar ei gartref newydd, ac ysgrifennodd, "with what pleasure, dear old house, have I tried to beautify you, inside and out!" Newidiwyd y ffasâd ac fe'i haddurnwyd â balconïau, ac roedd y tu mewn yn gefndir addas i'w gasgliad celf.  Crëodd ardd Eidalaidd, gyda phlanhigion a cherfluniau ffurfiol. Mae ei gasgliad o brintiau Eidalaidd yma mewn ffolios yn yr Oriel.

Ond erbyn 1902 dechreuodd golli ei olwg; aeth bron yn gwbl ddall.  Cafodd ei gystudd effaith fawr arno, ac fe roddodd o'i holl amser yn ei flynyddoedd olaf i elusennau.  Dewisodd ei brosiectau yn ofalus.  Roedd yn gwybod digon am y byd diwydiannol i ddeall amodau byw'r glowyr, a rhoddodd £30,000 i sefydlu cenhadaeth tuag at eu lles.  Agorwyd Neuadd Genhadaeth yr Hafod ym 1906.  Y flwyddyn ganlynol, agorodd Cartref Glynn Vivian i'r Deillion yn Newton.

Ym 1905, cynigiodd Glynn Vivian adael ei gasgliad celf i Abertawe, ac adeiladu oriel i'w gadw.  Ni dderbyniwyd ei gynnig yn syth, roedd pryder am y costau cynnal a chadw, y byddai'n rhaid i'r dref eu talu.  Rhoddodd ail gynnig ym 1908 ac ar ôl pleidlais o blith trethdalwyr, fe'i derbyniwyd.  Gosododd y garreg sylfaen ar 14 Mai 1909, a dechreuodd y gwaith adeiladu.  Agorwyd yr oriel ym mis Gorffennaf 1911, ond yn anffodus bu farw Glynn Vivian cyn cynnal y seremoni a berfformiwyd gan ei frawd, Graham.

Ym 1910, yn 74 oed, bu farw o niwmonia tra'n aros yn ei dŷ yn Llundain.  Roedd ei ewyllys a oedd, ar wahân i'r gymynrodd o'r casgliad celf, yn rhoi i elusennau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac roedd yn enghraifft i ddynion busnes cyfoethog eraill.

Mae cymynrodd Glynn Vivian, sy'n sylfaen i gasgliad yr oriel, yn adlewyrchu ei chwaeth eclectig. Yn ogystal â phaentiadau, dyfrlliwiau a phrintiau prynodd weithiau metel, llestri gwydr, ffannau a llyfrau, paentiadau bach, a'r casgliad gwych o cerameg, gwaith Ewropeaidd a Dwyreiniol, yn ogystal â'r nifer o enghreifftiau arbennig o grochenwaith a phorslen Abertawe.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM