Gwneud Cwyn
Mae Cyngor Abertawe yn ymrwymedig i wrando ar farn ei gwsmeriaid, p'un a ydynt yn gadarnhaol neu'n negyddol.
Os ydych am gwyno, dylech godi'r mater yn gyntaf â'r adran neu ddarparwr y gwasanaethau perthnasol.
Ar gyfer cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol darllenwch Weithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol neu cysylltwch â'r Tîm Cwynion Corfforaethol.
Ar gyfer pob cwyn arall am y Cyngor:
- Siaradwch ag aelod o'r staff yn unrhyw un o swyddfeydd y cyngor. Ffoniwch ni ar (01792) 636000.
- Ysgrifennwch i'r adran berthnasol.
- Os ydych yn ansicr yngl?n â pha adran y dylech gysylltu, ffoniwch y cyngor ar (01792) 636000.
- Gall ffrind, perthynas neu gynrychiolydd wneud cwyn ar eich rhan.
- Mae gwybodaeth ar gael mewn gwahanol fformatau hefyd, e.e. Saesneg (ac ieithoedd eraill ar gais), tâp sain, Braille, print bras etc, gan y Tîm Cwynion Corfforaethol (01792) 637345.
Os ydych yn anfodlon ar ymateb yr adran, dylech gwyno wedyn i'r adran honno fel Cwyn cam 1 yn unol â Pholisi Cwynion a Gweithdrefnau'r Cyngor.
Gweithdrefn Gwyno
Cwynion Cam 1
- I ddechrau, bydd yr Adran Gwasanaeth berthnasol yn ymdrin â'ch cwyn a'r gobaith yw y caiff ei datrys.
- Bydd yr Adran Gwasanaeth yn ceisio ymateb i'ch cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith.
Cwynion Cam 2
- Os nad ydych wedi derbyn ymateb gan yr Adran Gwasanaeth o fewn 10 niwrnod gwaith a hynny heb reswm da, neu os ydych wedi derbyn eglurhad neu ymateb ond rydych yn parhau'n anfodlon arno, gallwch gyfeirio'ch cwyn at y Tîm Cwynionm, Ffôn: (01792) 637345, neu e-bost complaints@swansea.gov.uk.
- Bydd y Tîm Cwynion yn adolygu'ch cwyn ar ran y Prif Weithredwr.
- Caiff eich cwyn ei chofnodi a byddwch yn derbyn ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith. Weithiau gall gymryd yn hwy ond byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn wir.
Beth os ydych yn anfodlon o hyd?
Cwyno i'r Ombwdsmon
Os nad ydych yn fodlon ar ganlyniad eich cwyn, ar ôl iddi fynd drwy ddau gam gweithdrefn y cyngor, gallwch ddewis cyfeirio'r mater at: Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru