Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Vernon Watkins

I gofio am fardd dylanwadol

Vernon Watkins blue plaque
Lleoliad y plac: 77 Heol San Helen, Abertawe - bellach yn siop fetio.

O'r ddau fardd pwysig mae'r ddinas hon wedi'u cynhyrchu, bu Vernon Watkins (1906 - 1967) yn byw'r bywyd mwy confensiynol i raddau helaeth. Bu'n gweithio mewn cangen o Fanc Lloyds Bank fel clerc am 38 mlynedd o'i oes rhwng 1928 a 1966. Â rhywfaint o eironi, mae'r gangen hon o Lloyds bellach yn siop fetio. Roedd sefydlogrwydd a strwythur oriau bancio'n rhoi llwyfan iddo farddoni.

Roedd ei ffrind da ac un arall o fechgyn y Kardomah, Dylan Thomas, yn gwbl wahanol iddo ac yn mwynhau'r ffordd arall o fyw. O ganlyniad, roedd Vernon Watkins yn fwy confensiynol ac nid yw wedi ennyn dychymyg y cyhoedd yn yr un ffordd sy'n siomedig - ond nid yw'n taflu cysgod ar hud nac ansawdd ei farddoniaeth.

Yn ystod ei awr ginio, byddai'n cerdded i lawr Heol San Helen i gaffi Lovell ger y YMCA i eistedd ar ford dawel yn y cefn lle gallai fwyta brechdan a darllen barddoniaeth. Ni fyddai ei swydd fel clerc yn y banc yn rhoi cyfle iddo gael awr ginio feddwol yn y dafarn ac ni fyddai wedi dymuno gwneud hynny.

Close Dewis iaith