Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Edgar Evans

I gofio am aelod o alldaith Capten Robert Falcon Scott i Begwn y De.

Edgar Evans blue plaque
Lleoliad y plac: Bwthyn Neuadd Middleton, Lôn Bunker Hill, Middleton, Gŵyr


Ganwyd Edgar Evans (1876 - 1912) ym Mwthyn Neuadd Middleton, Middleton ar Benrhyn Gŵyr ac fe'i magwyd gerllaw. Bu'n byw ym Middleton nes ei fod yn 6 oed ac yna symudodd y teulu i Abertawe. Ymunodd â'r Llynges Frenhinol yn 15 oed ac yn ddiweddarach bu'n gwasanaethu dan arweiniad Capten Scott gan ymgymryd â dwy alldaith i'r Antarctig rhwng 1901 a 1903.


Bu farw ar 17 Chwefror 1912 wrth ddychwelyd o Begwn y De gyda Pharti Deheuol yr Alldaith Brydeinig dan arweiniad Capten Robert Falcon Scott. Disgrifiwyd Edgar Evans gan Scott fel a ganlyn..."yn weithiwr aruthrol, mae'n gyfrifol am bob sled, pob gosodiad sled, pabell, sach gysgu, harnais a phan na fyddaf yn gallu cofio un mynegiant o anfodlonrwydd gydag unrhyw un o'r eitemau hyn, mae'n dangos mor amhrisiadwy y bu ef."

Ni ddarganfuwyd ei gorff erioed ac mae'n dal i orffwys ger Rhewlif Beardmore yn Antarctica.

Close Dewis iaith