Toglo gwelededd dewislen symudol

William Grove

I gofio am y gwyddonwr, y barnwr a dyfeisydd y gell danwydd

William Robert Grove blue plaque
Lleoliad y plac: Wal allanol yr Orsaf Heddlu Ganolog, Grove Place, Abertawe


Yn gyffredinol, ystyrir bod y gell danwydd neu fatri'n gynnyrch technoleg fodern yr 20fed ganrif. Dyfais sydd wedi helpu i bweru llongau gofod, ceir ac mae'n dal i gael ei defnyddio mewn pob math o gyfarpar. Mae tarddiad y dechnoleg yn dyddio'n ôl i ddegawdau cynnar y cyfnod Fictoraidd.

Roedd William Robert Grove (1811 - 96) yn wyddonydd ac yn gyfreithiwr a ddyfeisiodd fatri Grove ym 1839. Fe'i ganwyd yn Abertawe ac fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen. Fe'i gelwid i'r bar ym 1835 ond treuliodd sawl blwyddyn gartref yn Abertawe yn gweithio ar arbrofion electrocemeg a arweiniodd at ddyfeisio cell (danwydd) Grove. Fe'i ystyrid yn gyffredinol fel 'tad y gell danwydd fodern' (batri) ac fe'i gwnaed yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol (FRS) ym 1840. Erbyn 1842 a chyda llawer o arbrofi gofalus, roedd wedi adeiladu'r gell danwydd gyntaf a oedd yn gweithio. Daeth y dyn anhygoel hwn yn Gwnsler y Frenhines hefyd ym 1853, yn farnwr ym 1871 a chafodd ei urddo'n farchog ym 1872. Mae e'n un o ddau ddyn yn unig a anwyd yn Abertawe i gael ei ddewis i fod yn Farnwr yr Uchel Lys.