Toglo gwelededd dewislen symudol

Lewis Weston Dillwyn

Er anrhydedd y gwneuthurwr porslen Prydeinig, y naturiaethwr a'r Aelod Seneddol.

Lewis Dillwyn blue plaqueDadorchuddiwyd y degfed plac glas ddydd Iau, 2 Gorffennaf y tu allan i Neuadd Sgeti.

Roedd hwn i anrhydeddu Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) tad John Dillwyn Llewellyn o Benllergaer a thad-cu Amy Dillwyn (y ceir plac glas (nad yw'n rhan o'r cynllun hwn) i'w hanrhydeddu ar y promenâd ger tafarn y West Cross).

Ganed L.W. Dillwyn ym 1778, yn fab hynaf i William Dillwyn, crynwr o Bensylfania a ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth ac a brynodd Grochendy Cambrian yn Abertawe ym 1802 ar ran ei fab.

Cyhoeddodd Dillwyn, a oedd yn fyfyriwr natur brwd, ddarnau o waith niferus ar fotaneg a chregynneg a chafodd ei ethol yn Gymrodor y Gymdeithas Frenhinol ym 1804. Aeth gyda Miss Talbot o Benrhys i Dwll-y-Gafr, Pen-y-fai (Pafiland), ar ôl i olion dynol gael eu darganfod yn yr ogof ym mis Rhagfyr 1822 ac ysgrifennodd at Athro Daeareg Rhydychen, William Buckland, i archwilio'r hyn a fyddai'n cael ei adnabod fel "Menyw Goch Pen-y-fai".

Penodwyd Dillwyn yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1818, cynrychiolodd Morgannwg fel AS Chwig (Rhyddfrydwr) yn y senedd ddiwygiedig gyntaf o 1832 a daeth yn Faer Abertawe saith mlynedd yn ddiweddarach. Wedi byw yn Burrows Lodge, a arferai sefyll ger Amgueddfa Abertawe, prynodd Neuadd Sgeti ym 1831 am £3,800. Ym 1835, daeth yn un o sylfaenwyr a llywydd cyntaf Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Abertawe, a ddaeth yn Sefydliad Brenhinol De Cymru, ac adeiladodd Amgueddfa Abertawe chwe blynedd yn ddiweddarach.