Toglo gwelededd dewislen symudol

St Helens - Cae Clwb Rygbi Abertawe

Gwnaed yn enwog fel lleoliad llawer o achlysuron chwaraeon

St Helen's Rugby Ground blue plaque
Lleoliad y plac: Heol Bryn, ar wal allanol wrth ochr y fynedfa i'r tŷ clwb.

Hwn oedd yr 11eg plac ac fe'i dadorchuddiwyd ddydd Iau, 1 Hydref.

Maes San Helen, a agorodd gyntaf ym 1873, fu'r lleoliad ar gyfer rhan o'r buddugoliaethau mwyaf cofiadwy yn hanes rygbi yng Nghymru.

Abertawe oedd y clwb cyntaf i guro Awstralia (1908), De Affrica (1912) a Seland Newydd (1935). Yn fwy diweddar, trechwyd Awstralia, pencampwyr y byd ar y pryd, o 21-6 gan Glwb Rygbi Abertawe gerbron 10,150 o gefnogwyr ym 1992.

San Helen oedd y lleoliad hefyd ar gyfer y gêm ryngwladol gartref gyntaf yng Nghymru, ar 16 Rhagfyr 1882. Collodd Cymru o 10-0 yn yr ail gêm yn unig rhwng y ddau dîm.

Rhaid bod hwn yn un o'r meysydd mwyaf atyniadol ar gyfer rygbi yn y DU, gyda'i leoliad unigryw ar lan y môr a thraeth tywodlyd o fewn tafliad carreg i'r cae chwarae.

Close Dewis iaith