Toglo gwelededd dewislen symudol

Edward George "Taffy" Bowen

Gwyddonydd, Arloeswr ym maes radar

Edward Bowen blue plaque
14 Ionawr 1911 - 12 Awst 1991

Yn ystod y rhyfel a'i yrfa ddilynol yn America ac Awstralia, daeth Edward George Bowen (fy nhad) i gael ei adnabod fel 'Taffy' - yn aml oherwydd mai ef oedd yr unig Gymro a oedd yn gweithio ymysg llu o genhedloedd eraill. Roedd yn Gymro brwd drwy gydol ei fywyd ac yn ei 47 mlynedd yn Awstralia roedd yn ymhyfrydu yn yr enw 'Taffy', yn broffesiynol ac yn gymdeithasol.

Fel gwyddonydd, caiff Taffy Bowen ei gofio'n bennaf am bedwar peth:

1.     Ei gyfraniad yn ystod y rhyfel at ddatblygiad cynnar radar yn y DU a'r Unol Daleithiau, yn enwedig radar awyr a'i ddefnydd i ganfod llongau a llongau tanfor o'r awyr i'r tir (ASV), a chanfod ac olrhain awyrennau (AI). Mae radar wedi'i ddisgrifio fel 'y ddyfais a newidiodd y byd (am iddo arwain at gynifer o ddatblygiadau dilynol). Cydnabuwyd pwysigrwydd ei waith ar radar yn gynnar, ac fe'i gwobrwywyd yn haeddiannol ag OBE (1941), Medal Rhyddid yr Unol Daleithiau (1947) a Gwobr y Comisiwn Brenhinol i Ddyfeiswyr yn y DU (1951).

2.     Mae ei gydweithwyr yn Awstralia'n ei gofio am drawsnewid rhaglen radar milwrol adeg rhyfel i'r gwaith ymchwil â chwmpas anhygoel wedi'r rhyfel yr oedd yn ei arwain fel Pennaeth Is-adran Radioffiseg Sefydliad Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol y Gymanwlad (CSIRO).  Cynhaliwyd y rhaglenni hyn, a oedd yn cynnwys ei ddiddordeb parhaol mewn ffiseg cymylau, creu glaw'n artiffisial ac achosion amrywioldeb mewn glaw, yn yr awyrgylch ysgogol roedd wedi'i feithrin yn y labordy radioffiseg.

3.     Yn ystod y 1950au hwyr, roedd Taffy'n goruchwylio ac yn ysgogi'r broses o ddylunio, ariannu ac adeiladu'r telesgop radio yn Parkes, NSW yn Awstralia. Roedd y gallu gan Taffy i ddefnyddio ei gysylltiadau blaenllaw yn yr Unol Daleithiau i sicrhau arian sbarduno gan The Rockefeller Foundation a'r Carnegie Corporation; heb hynny, efallai na fyddai llywodraeth amheus Awstralia wedi ymuno yn y fenter. Roedd telesgop Parkes yn cynnwys nifer o nodweddion arloesol pwysig a oedd yn gyfrifol am ei berfformiad rhagorol, gan beri i NASA gydnabod Taffy 'am ei ymdrechion arloesol i ddatblygu technoleg ar gyfer antenâu telesgop llywiadwy mawr iawn'. Ym 1962, rhoddwyd CBE i Taffy i gydnabod ei gyfraniadau at ddatblygu gwyddoniaeth yn Awstralia, a gwasanaethodd fel Is-lywydd Academi Gwyddoniaeth Awstralia.

4.     Y cyflawniad peirianyddol mawr arall sy'n ddyledus iawn i gymhelliad a brwdfrydedd Taffy yw'r Anglo-Australian Telescope (AAT) optegol yn Siding Spring yn NSW. Roedd yn aelod o'r Cyd-bwyllgor Polisi cychwynnol ac yna ef oedd Cadeirydd Bwrdd AAT, a lywiodd y prosiect drwy'r blynyddoedd cymhleth pan oedd y dyluniad yn datblygu ac roedd rhaid goresgyn rhwystrau o ran rheoli a gweithredu'r telesgop gorffenedig yn y pen draw a oedd yn ymddangos yn amhosib. Pan ddechreuodd gweithrediadau ym 1975, ystyriwyd bod y telesgop yn orchest dechnolegol. Yn ôl Syr Fred Hoyle, 'Nid oes amheuaeth bod rhaid rhoi cryn dipyn o'r clod i Taffy Bowen'. Yn y flwyddyn honno, yn rhy hwyr o lawer, etholwyd Taffy'n Gymrawd Academi Frenhinol Llundain.

I ddyn a oedd mor actif yn gorfforol a chwilfrydig yn feddyliol, roedd y strôc a ddioddefodd yn hwyr ym 1986 yn arbennig o ysgytiol. Ni lwyddodd i iacháu'n llawn ar ôl y digwyddiad cyntaf ac yn hwyrach dioddefodd gyfres wanychol o strociau a arweiniodd at ei ddirywiad graddol a'i farwolaeth, ym mis Awst 1991, yn 80 oed.

Close Dewis iaith