Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rhyfel cartref yn Sbaen

Ar 17 Gorffennaf 1936, lansiodd cadfridogion y gwrthryfelwyr wrthryfel yn erbyn llywodraeth Sbaen.

Civil War in Spain
Roedd y gwrthryfel yn rhannol lwyddiannus yn unig. Erbyn mis Hydref 1936, roedd lluoedd y gwrthryfelwyr (y cenedlaetholwyr) yn rheoli de Sbaen, ond roedd gogledd a dwyrain y wlad yn dal i fod yn ffyddlon i lywodraeth Sbaen (y gweriniaethwyr).

Erbyn gwanwyn 1937, roedd yr ymladd wedi cyrraedd cam difrifol. Roedd cilfach fach y llywodraeth yn y gogledd, a oedd yn llai niferus a chanddi lai o arfau, bellach wedi'i hamgylchu o bob cyfeiriad. I waethygu pethau, roedd sgwadronau o awyrennau o'r Almaen (Lleng y Condor), a anfonwyd i Sbaen gan Adolf Hitler, yn ymosod ar amddiffynwyr y gweriniaethwyr o'r awyr.

Wrth i lu o ffoaduriaid gyrraedd dinas Bilbao, rhoddwyd pwysau ar Llywodraeth Prydain i agor ei ei ffiniau i ddinasyddion a oedd wedi'u dal yng nghilfach y gweriniaethwyr. I ddechrau, roedd Llywodraeth Prydain yn amharod i ffoaduriaid yn swyddogol. Fodd bynnag, yn dilyn protestiadau gan y cyhoedd ynghylch bomio tref Fasgaidd Guernica ar 26 Ebrill 1937, ildiodd y llywodraeth. Byddai'n gadael i nifer cyfyngedig o blant ddod i'r DU ar yr amod na fyddai unrhyw arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i'w cynorthwyo.

Ar 21 Mai 1937, gadawodd 3,826 o blant Bilbao ar long SS Habana. Ddeuddydd yn ddiweddarach, glaniodd y llong yn Southampton lle roedd y Cyd-bwyllgor Cenedlaethol dros Gymorth i Sbaen (NJCSR) wedi paratoi pentref pabellog. Gan fod y plant yn ddiogel i ffwrdd o'r rhyfel, canolbwyntiodd yr NJCSR ar ddod o hyd i lety addas ar gyfer y ffoaduriaid. Un o'r bobl a atebodd y galw am gymorth oedd Richard Henry, Maer Abertawe.

Byddai Abertawe'n cymryd 80 o blant. Roedd y cyngor lleol yn barod i adael iddynt ddefnyddio adeilad mawr gwag (Tŷ Parc Sgeti) ond ar yr amod y byddai'r gymuned leol yn cymryd cyfrifoldeb am ofalu amdanynt.

Darllenwch am y plant Basgaidd yn cyrrhaedd Abertawe

Close Dewis iaith