Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa'r Maer

Ar ôl i'r plant gyrraedd Tŷ Parc Sgeti, lansiodd Maer Abertawe, Richard Henry, Gronfa Gymorth Ffoaduriaid Sbaeneg Abertawe.

Mayors fund right
Cost bwydo a dilladu un plentyn am wythnos fyddai 13s 6c. Felly, amcangyfrifwyd y byddai angen codi dros £2,000 ar gyfer y gronfa gymorth er mwyn cynnal y plant am oddeutu 40 o wythnosau. I'r perwyl hwn, anfonodd y maer 600 o lythyrau'n apelio am gefnogaeth a chymorth.

Mayors fund left
Yn ystod yr wythnosau dilynol, codwyd arian o bob rhan o'r gymuned.

Rhoddodd Clwb Rotari Abertawe £100. Rhoddodd Cymdeithas Llafur Abertawe £20 bob pythefnos.  Un o'r cymwynaswyr mwyaf yn Abertawe oedd y capeli anghydffurfiol a roddodd yr enillion o'u casgliadau ar y Sul.

Casglwyd rhoddion o gyfarfodydd ar y traeth ac o'r torfeydd a dyrrodd ar y strydoedd yn ystod ymweliad y Brenin ag Abertawe ar 14 Gorffennaf, 1937.

Penderfynwyd agor Tŷ Parc Sgeti hefyd i ymwelwyr ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Roedd dau ddiben i'r ymweliadau hyn. Yn gyntaf, roedd yn gyfle arall i gasglu rhoddion gan ddymunwyr da ac yn ail, roedd yn helpu i gadw sylw'r cyhoedd ar helynt y ffoaduriaid.

Darllenwch am Gapten David "Potato" Jones a'i orchestion yn Sbaen a Ffrainc ...

Close Dewis iaith