Gwasanaethau Anableddau Dysgu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
Er mwyn cael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaid i bobl gael asesiad gyntaf gan y Y Tîm Cynnal Cymedunol ar Gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu.
Ymysg ein gwasanaethau mae:
- wasanaethau anghenion arbennig ar gyfer pobl ag anabledd dysgu dwys a/neu anabledd corfforol, synhwyraidd neu gyfathrebu dwys
- canolfan dydd ar gyfer pobl hŷn ag anabledd dysgu
- cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol sy'n cysylltu â chyfleusterau cymunedol lleol
- gwasanaeth sy'n hyrwyddo ac yn datblygu hyfforddiant sgiliau a chyfleodd sy'n gysylltiedig â gwaith
- gwasanaeth cymunedol hyblyg sy'n hybu mwy o annibyniaeth ac sy'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth er mwyn rheoli bywyd o ddydd i ddydd.
- gwasanaeth cefnogi ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu y mae ganddynt anghenion mwy cymhleth neu ymddygiad heriol
- gwasanaeth preswyl sy'n darparu llety wedi'i gynllunio a llety brys dros dro i'r rhai na allant aros yn eu cartrefi eu hunain.
- gwasanaeth seibiant sy'n darparu llety wedi'i gynllunio a llety brys dros dro yn ogystal â seibiant i ofalwyr