Toglo gwelededd dewislen symudol

Blynyddoedd Aur

Blynyddoedd aur bywyd Iddewig yn Abertawe oedd y degawdau cyn y Rhyfel Mawr, pan gyrhaeddodd cannoedd o fewnfudwyr o Rwsia trwy East End Llundain.

Golden Years
Er i gyrhaeddiad y mewnfudwyr o Rwsia achosi peth ymraniad yn y gymuned, cychwynnodd hefyd gyfnod o dwf ac egni cymunedol. Yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, ffynnai nifer mawr o gymdeithasau, clybiau a sefydliadau Iddewig yn Abertawe. Roedd anghenion diwylliannol y gymuned yn cael eu gwasanaethau gan Gymdeithas Lên Iddewig Abertawe a Sefydliad Iddewig Abertawe. Hefyd cynhelid cyngherddau amrywiaethol, dramâu amatur a chlybiau chwaraeon.

Uchafbwyntiau eraill y calendr cymdeithasol Iddewig oedd aduniadau ar gyfer y rhai oedd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, ymweliadau gan y Prif Rabi a digwyddiadau codi arian i elusennau. Fel yr oedd yn briodol i gymuned ifanc gyda chyfradd uchel o enedigaethau, roedd hefyd nifer di-rif o briodasau, seremonïau bar mitsfa a dathliadau teuluol eraill.

Fodd bynnag, roedd cyfnod y twf hwn yn fyrhoedlog. Er bod Abertawe wedi denu sawl teulu o fewnfudwyr yn ystod y 1900au, erbyn y 1960au a'r 70au, roedd cynydd parhaus yn nifer y bobl ifanc Iddewig oedd yn gadael de Cymru. Gyda llai o gyplau'n magu teuluoedd yn Abertawe, dechreuodd y dirywiad demograffig cyson yn y gymuned.

Erbyn heddiw, mae'r gynulleidfa'n parhau i gwrdd yn rheolaidd am wasanaethau crefyddol, gan gadw traddodiad yn fyw sy'n dyddio'n ôl cryn dipyn yn fwy na 250 o flynyddoedd.

Close Dewis iaith