Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr Taith Cyrnewid y Ffagl Olympaidd trwy Abertawe - trem yn ôl i 1908

Ddydd Sadwrn a dydd Sul 26 a 27 Mai 2012, roedd y Fflam Olympaidd yn cael ei chludo trwy Abertawe.

Olympic Torch Relay

Olympic Torch Relay
Ddydd Sadwrn roedd yn gadael Dociau Abertawe, yn teithio trwy ganol y dref, heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd y glannau, ac yn diweddu'r dydd ym Mharc Singleton. Roedd llwybr dydd Sul yn dechrau ym Mae Bracelet, yn mynd ar hyd glannau'r Mwmbwls i Gastell Ystumllwynarth, yn ôl ar hyd y glannau tuag at Sgeti, i'r Cocyd a Fforest-fach, cyn symud ymlaen i Lanelli.

Nid oedd taith gyfnewid y ffagl pan ddaeth y gemau Olympaidd i Lundain gyntaf ym 1908. Ond pe bai, sut oedd y daith trwy Abertawe bryd hynny? Mae'r ffilm hon yn dilyn llwybr 2012 mewn hen luniau i ddangos sut fyddai'r daith bryd hynny.

Yn 2013, enillodd y ffilm hon y Wobr Arloesedd Marchnata i archifau gyntaf. Gobeithiwn y byddwch chi'n ei mwynhau.