Mae Marchnad Abertawe, sy'n ffefryn mawr ymhlith ymwelwyr a thwristiaid, wedi creu profiad siopa hapus ac unigryw am genedlaethau. Mae ychydig dros 50 mlynedd ers agor y Farchnad Abertawe rydym yn ei hadnabod ac mor hoff ohoni heddiw. Dyma farchnad dan do fwyaf Cymru ac mae'n gartref i ddwsinau o stondinau sy'n gwerthu cynnyrch o Abertawe, Gŵyr a de Cymru.
Dyma'r trydydd adeilad marchnad i gael ei leoli ar Stryd Rhydychen, ond mae hanes marchnad Abertawe yn mynd yn ôl yn bellach nag yr ydym yn ei gredu.
Darllenwch am farchnadoedd cynharaf Abertawe