Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio a storio badau yn Knab Rock

Os ydych chi eisiau defnyddio llithrfeydd Abertawe i lansio'ch bad neu'ch sgi-jet, bydd yn rhaid i chi gofrestru'n gyntaf.

Cofrestru cychod

Mae'n rhaid i bob defnyddiwr sy'n dymuno lansio bad â motor o lithrfeydd Knab Rock gofrestru'r bad/offer dŵr personol gyda Chyngor Abertawe.

Mae'r cynllun yn helpu i wella diogelwch mewn ardaloedd dŵr prysur a bydd yn helpu i adnabod gyrwyr badau sy'n gweithredu y tu allan i reolau a rheoliadau'r cyngor neu sy'n gyrru'r bad/peiriant mewn modd sy'n beryglus i eraill neu eu hunain.

Cofnodir manylion perchnogaeth gyda'r cyngor a neilltuir rhif cofrestru. Rhoddir dau sticer sy'n dangos y rhif cofrestru, a rhaid arddangos y rhain mewn lle alwg ar ddwy ochr y bad.

  1. Gwrthodir mynediad i'r llithrfa os nad yw'r rhif cofrestru wedi'i arddangos
  2. Caiff mynediad ei atal wrth ymchwilio i gwynion
  3. Bydd angen cofrestriad newydd os prynir bad newydd neu ychwanegol.

Ffïoedd cyfredol

  • ffi gofrestru untro £30
  • ffi lansio/gasglu ddyddiol o £7.50 gan gynnwys ôl-gerbyd storio 24 awr ar gyfer badau sydd ar y môr

Defnyddwyr Sgïau Jet / BDP

Mae'n rhaid i ddefnyddwyr Sgïau Jet/BDP sydd am ddefnyddio llithrfeydd Knab Rock basio cwrs Hyfedredd Dŵr Personol y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) cyn bydd y cyngor yn caniatáu i'r Sgi Jet / BDP gael ei lansio o lithrfeydd Knab Rock. Bydd angen i'r defnyddiwr y Sgi Jet / BDP gyflwyno'r dogfennau canlynol i'r cyngor ar gyfer adolygiad blynyddol:

  • tystysgrif BDP y Gymdeithas Hwylio Frenhinol
  • yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n werth o leiaf £2,000,000

Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr lofnodi Amodau a Thelerau'r cyngor a rhoddir cerdyn mynediad ffotograffig blynyddol i ddefnyddwyr a fydd yn ddilys o fis Ebrill i fis Mawrth.

Gallwch drefnu cwrs Hyfedredd Dŵr Personol (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA).

Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch wrth ddefnyddio badau dŵr personol (Yn agor ffenestr newydd) ar gael ar wefan y Bartneriaeth Badau Dŵr Personol (PWP).

Ffïoedd cyfredol

  • ffi gofrestru untro £30
  • ffi weinyddol flynyddol o £70 sy'n cynnwys cerdyn mynediad ffotograffig
  • ffi lansio/gasglu ddyddiol o £7.50 gan gynnwys ôl-gerbyd storio 24 awr ar gyfer badau sydd ar y môr.

Defnyddio llithrfeydd lansio

Mae'n ofynnol i bob bad dalu ffi lansio/gasglu ddyddiol wrth ddefnyddio llithrfeydd y cyngor. Defnyddir yr incwm hwn i gynnal a chlirio/gwaredu darnau o'r llithrfeydd. Mae'n rhaid i ddefnyddwyr gofrestru eu badau cyn defnyddio'r llithrfeydd - gweler yr wybodaeth am gofrestru badau am fanylion pellach.

Ffïoedd cyfredol

  • ffi lansio/gasglu ddyddiol o £7.50 gan gynnwys ôl-gerbyd storio 24 awr ar gyfer badau sydd ar y môr
  • £120 y flwyddyn i ddefnyddio'r llithrfa at ddiben masnachol.

Storio badau yn Knab Rock

Rhaid i bob bad a gaiff ei storio yn Knab Rock gael ei yswirio, a rhaid sicrhau bod ganddo Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus sy'n werth o leiaf £2,000,000.

Rhaid i bob defnyddiwr lofnodi amodau a thelerau'r cyngor.

Ffïoedd cyfredol

  • ffi flynyddol o £199.80 (Ebrill - Mawrth) sy'n cynnwys defnyddio'r llithrfa am 12 mis.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae gan berchnogion badau â motor gyfrifoldeb tuag atynt hwy eu hunain, eu teithwyr a defnyddwyr eraill y dŵr.

Cyn mynd mas i'r môr, dylid ennill rhai sgiliau morwriaeth sylfaenol, gyda'r defnydd o gyfarpar diogelwch a chynnal a chadw badau/peiriannau.

Beth i'w wneud cyn mynd ar y môr:

  • gwiriwch ragolygon y tywydd
  • gwiriwch amodau'r môr, amserau'r llanw, rhwystrau dan y dŵr, is-ddeddfau
  • sicrhewch fod eich motor a'ch cyfarpar wedi'u cynnal yn dda
  • defnyddiwch danwydd ffres bob tro
  • gwisgwch siaced achub
  • parciwch eich car a'ch ôl-gerbyd gyda gofal ac ystyriaeth
  • peidiwch â rhwystro llithrfeydd na mynediad i ddefnyddwyr eraill neu'r gwasanaethau brys
  • cariwch gyfarpar diogelwch neu ddyfeisiau ar gyfer seinio rhybudd ar bob adeg.

Bod yn ddiogel ar y dŵr

  1. PEIDIWCH AG yfed a gyrru! Mae'r un mor beryglus ar y môr ag ydyw ar y tir
  2. Gadewch fanylion eich taith ac amcan o'ch amser dychwelyd
  3. Arhoswch o leiaf 100 metr o'r lan ger traethau ymdrochi poblogaidd
  4. Nid oes gwasanaeth casglu yn Langland neu Caswell oni bai fod argyfwng
  5. Ufuddhewch i derfynau cyflymder, yn enwedig o fewn bwiau marcio a safleoedd lansio
  6. Cysylltwch cyrts diffodd motor os gallwch wneud hynny.
  7. Peidiwch â chaniatáu i blant neu bobl heb hyfforddiant reoli badau neu gychod cyflym.

Derbynfa Knab Rock

Mae ein derbynfa ar agor yn ddyddiol yn ystod misoedd yr haf, ond ar adegau, bydd staff y tu allan yn helpu perchnogion badau eraill. Os bydd y dderbynfa ar gau pan fyddwch yn cyrraedd, gallwch ein ffonio ar 01792 363705.

Close Dewis iaith