Toglo gwelededd dewislen symudol

Meddwl am brynu neu adnewyddu eiddo gwag?

Sut gallaf olrhain perchennog eiddo gwag?

  • efallai y byddai cymdogion neu berchnogion siopau lleol yn gwybod pwy sy'n berchen ar yr eiddo. Mae'r dull hwn am ddim, ac yn aml gellir cael gwybodaeth werthfawr
  • gallwch gynnal chwiliad gyda Chofrestrfa Tir Ei Mawrhydi (Yn agor ffenestr newydd) am ffi fach
  • os cyflwynwyd cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer yr eiddo, bydd y manylion wedi'u cofnodi gyda Cynllunio.

Sut rydw i'n cael morgais ar gyfer eiddo gwag?

Weithiau gall fod yn anodd cael morgais ar gyfer eiddo gwag, gan fod angen i lawer o bobl fenthyca mwy o arian ar gyfer costau cyfunol prynu ac adnewyddu'r eiddo na gwerth yr eiddo yn ei chyflwr adfeiliedig. O safbwynt benthyciwr, mae hwn yn risg uchel, oherwydd os nad ydych chi'n talu'r taliadau, nid yw gwerth yr eiddo'n ddigon i adfer y benthyciad os ydynt yn ailfeddiannu'r eiddo. Fodd bynnag, ar adegau mae rhai cwmnïau'n cynnig morgais sy'n addas ar gyfer adnewyddu eiddo gwag yn benodol. I gael rhagor o gyngor, siaradwch â Brocer Morgeisi a ddylai allu eich helpu.

Benthyciadau di-log

Benthyciad landlord

Mae Cynllun Cynulliad Llywodraeth Cymru'n cynnig benthyciadau i berchnogion eiddo gwag ar sail di-log - hyd at uchafswm o £25,000 fesul eiddo (neu £150,000 ar gyfer nifer o unedau mewn un adeilad). Y ffi ar gyfer gweinyddu'r benthyciad hwn yw £1,000 ac mae'n destun Gwiriadau Credyd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch y Tîm Adnewyddu Trefol ar 01792 635330 neu e-bostiwch adnewyddutrefol@abertawe.gov.uk

Benthyciad perchennog preswyl

Mae'r benthyciad ar gael i berchnogion eiddo gwag sy'n bwriadu byw yn yr eiddo eu hunain yn ystod cyfnod y benthyciad. Gall perchennog fenthyg hyd at £25,000 fesul annedd, sy'n ddi-log. Gellir talu'r benthyciad mewn rhandaliadau misol ac mae'n rhaid bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu'n llawn cyn i'r cynllun ddod i ben yn 2029. Y ffi ar gyfer y benthyciad hwn yw £500, sy'n gallu cael ei ychwanegu at swm y benthyciad.

Ni all y gymhareb benthyciad i werth fod yn fwy nag 80%

Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn ar gael yn Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol

Grantiau a chyngor ar effeithlonrwydd ynni

I gael cyngor a gwybodaeth am y Grantiau Effeithlonrwydd Ynni sydd ar gael i chi, ffoniwch yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512012 neu e-bostiwch www.energysavingtrust.org.uk (Yn agor ffenestr newydd) - gallant wirio a fyddech yn gymwys ar gyfer unrhyw gymorth grant e.e. er mwyn inswleiddio cartrefi.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau effeithlonrwydd ynni ar wedudalennau Cyngor Abertawe Gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni

Cael caniatâd cynllunio

Mae angen caniatâd cynllunio os ydych chi am newid defnydd yr eiddo e.e. o siop i fflat/tŷ, o dŷ i nifer o fflatiau un ystafell/fflatiau etc. Cynllunio hefyd angen caniatâd os ydych am estyn yr eiddo fel rhan o'ch gwaith ailddatblygu neu os ydych am newid yr eiddo mewn unrhyw ffordd sylweddol. Mae'n syniad i chi wirio gyda'r Adran Gynllunio cyn dechrau ar unrhyw waith oherwydd gallant gynnig cyngor i chi ac mae ganddynt ddeunyddiau ar gael sy'n cynnig rhagor o wybodaeth.

Bydd comisiynu pensaer neu ddrafftsmon i weithredu fel eich asiant hefyd yn gallu helpu i sicrhau bod eich cais cynllunio'n symud ymlaen yn fwy llyfn, gan y bydd yn ymwybodol o reoliadau a chyfyngiadau ar adeiladu. Ewch i wefan Cynllunio Cyngor Abertawe i gael rhagor o wybodaeth www.abertawe.gov.uk/cynllunio.

Mae'n werth ystyried defnyddio'r gwasanaeth cyn cyflwyno cais cynllunio gan ei fod yn rhoi'r cyfle i chi ofyn am gyngor gan yr Adran Gynllunio cyn cyflwyno cais ffurfiol. Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio

Dod o hyd i adeiladwr dibynadwy

Wrth gomisiynu adeiladwr i wneud gwaith adnewyddu, mae'n werth ystyried y pwyntiau canlynol:

  • Talu'n ychwanegol am adroddiad arolwg manwl gan  y bydd hwn yn dangos yn union pa waith y mae angen ei wneud er mwyn sicrhau bod yr eiddo i safon dderbyniol.
  • Ceisio cael o leiaf 3 dyfynbris yn ysgrifenedig.
  • Os yw'n bosib, dylech gael argymhellion gan ffrindiau neu gydweithwyr. Mae hyn bob amser yn well oherwydd os ydynt wedi cael profiad da gydag adeiladwr, mae'n debyg y cewch chi'r un profiad hefyd.
  • Gofynnwch am gyfeiriadau'r eiddo lle mae'r adeiladwr wedi gwneud gwaith, yna gallwch yrru heibio'r eiddo hwn i weld ei waith.
  • Sicrhewch eich bod yn esbonio'n glir i'r adeiladwr pa waith y mae angen ei wneud ac ar ba gam y gall ddisgwyl cael taliadau yn y cyfamser a beth yw cyfanswm y tâl am y gwaith. Mae drafftio amserlen ar gyfer y gwaith yn helpu i nodi yn union pa waith y mae angen ei wneud ac i ba safon.
  • Mae rhai gwefannau'n gallu argymell adeiladwr dibynadwy - cynllun safonau a gymeradwyir gan y Llywodraeth yw TrustMark (Yn agor ffenestr newydd) sy'n cynnwys gwaith y mae cwsmer yn dewis ei gyflawni yn ei gartref neu o'i gwmpas. Pan fydd cwsmer yn defnyddio busnes sydd wedi'i gofrestru â TradeMark, mae'n gwybod ei fod yn gweithio gyda sefydliad sydd wedi'i archwilio er mwyn bodloni'r safonau gofynnol, ac sydd wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i wasanaeth cwsmeriaid da, cymhwysedd technegol ac arferion masnachu.

Cyfraddau TAW gostyngedig i berchennog/datblygwr sy'n adnewyddu eiddo gwag

Mewn ymgais i annog ailfeddiannu eiddo gwag mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno rhyddhad newydd ar TAW. Mae hyn yn cynnwys

  • gostyngiad mewn TAW i 5% ar gost adnewyddu anheddau tai sengl sydd wedi bod yn wag am ddwy flynedd
  • cyfradd sero gwerthu adeiladau sydd wedi'u hadnewyddu nad ydynt wedi'u defnyddio at bwrpas preswyl am o leiaf deng mlynedd.

Eithriadau TAW ar gyfer eiddo gwag Eithriadau TAW ar gyfer eiddo gwag

Close Dewis iaith