Cynlluniau gwarchodaeth eiddo
Os ydych yn pryderu bod eich eiddo'n fwy diamddiffyn pan na fydd neb yn byw ynddo, mae nifer o gwmnïau ar y farchnad a all drefnu i warchodwyr fyw yn eich eiddo dros dro.
Dyma sail y cynllun:
- mae pob eiddo gwag yn fwy diamddiffyn pan na fydd rhywun yn byw ynddo ac felly, gydag awdurdod y perchnogion, gall y cwmni drefnu i warchodwyr fyw yn yr eiddo
- mae'n cynnal gwiriadau credyd ac yn dod o hyd i warchodwyr posib i fyw mewn eiddo gwag ar ran perchnogion sy'n absennol
- gall gwarchodwyr fyw mewn tai neu unedau masnachol gwag
- mae'n rhaid i bob gwarchodwr gadw at gyfres lem o reolau - gan gynnwys dim cŵn, dim plant, dim ymwelwyr heb ganiatâd a dim gwyliau heb ganiatâd (gan fod yn rhaid i'r cwmni drefnu gwarchodwyr eraill i atal yr eiddo rhag bod yn wag). Cynhelir gwiriadau i'r diben bob mis i sicrhau y cedwir at y rheolau hyn
- mae angen i bob gwarchodwr ennill o leiaf £12,000 y flwyddyn
- mae'n rhaid i bob gwarchodwr lofnodi contract sy'n golygu mai dim ond 30 niwrnod o rybudd y caiff i adael yr eiddo
- ychydig iawn o gost sydd i'r perchennog oherwydd telir am y costau hyn drwy'r incwm rhentu gan y gwarchodwr
- dim ond eiddo sy'n bodloni'r safon fyddai'n addas ar gyfer y cynllun (h.y. ni fyddai unrhyw eiddo y torrwyd i mewn iddo'n flaenorol, ac y cafodd ei bibau copr etc. eu dwyn, a lle nad oes system wresogi sy'n gweithio yn cael ei gynnwys)
- ar gyfer rhai mathau o eiddo megis cartrefi gofal, gellir cael mwy nag un gwarchodwr (yn amodol ar ofynion HMO).
Mae rhai cwmnïau ar y farchnad sy'n darparu'r gwasanaeth hwn, ac os ydych yn cynnal chwiliad ar y rhyngrwyd dan 'Gynlluniau Gwarchodaeth Eiddo', bydd hyn yn caniatáu i chi nodi pa gwmnïau sy'n cynnig y cynlluniau hyn a chysylltu â hwy i gael mwy o wybodaeth.