Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Polisi cwynion

Rydym yn ymrwymedig i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion a allai fod gennych am ein gwasanaeth.

  1. Cyflwyniad
  2. Pryd i ddefnyddio'r polisi hwn
  3. Pryd i gysylltu â'r adran gwasanaeth berthnasol
  4. Cwyn cam 1: Datrysiad anffurfiol
  5. Cwyn cam 2: Ymchwiliad ffurfiol
  6. Sut i wneud cwyn
  7. Mynd i'r afael â'ch cwyn
  8. Pan fo mwy nag un sefydliad yn rhan o'r gŵyn
  9. Ymchwilio i'ch cwyn
  10. Canlyniad i'ch cwyn
  11. Gwneud yn lawn
  12. Ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus Cymru
  13. Cwynion Iaith Gymraeg
  14. Dysgu gwersi
  15. Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych?
  16. Os oes angen mwy o gymorth arnoch


1. Cyflwyniad

1.1 Mae Dinas a Sir Abertawe (yr Awdurdod) wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaeth. Yn y ddogfen hon, mae'r term "cwyn" yn cyfeirio at bryder neu gŵyn.

1.2 Ein nod yw ceisio egluro unrhyw fater nad ydych yn sicr ohono. Byddwn yn darparu unrhyw wasanaeth y mae'r hawl gennych iddo lle rydym wedi methu gwneud hynny'n flaenorol heb reswm da. Byddwn yn ymddiheuro os byddwn yn cael rhywbeth yn anghywir, ac yn ceisio gwneud yn iawn am hyn lle y gallwn wneud hynny. Rydym hefyd yn ymdrechu i ddysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth rydym yn ei derbyn i wella'n gwasanaethau.


2. Pryd i ddefnyddio'r polisi hwn

2.1 Bydd y cyngor yn defnyddio'r polisi hwn mewn ffordd sy'n gefnogol, fel eich bod yn gwybod pwy i gysylltu â nhw a sut i wneud hynny, a'r amserlenni ar gyfer pob cam o'r broses.

2.2  Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir defnyddio'r polisi hwn i benderfynu a yw'r cyngor gorau wedi'i roi ai peidio, neu a yw gwasanaeth y mae hawl gan berson i'w gael heb ei ddarparu, neu heb ei ddarparu'n gywir. Mae amgylchiadau lle gallai'r polisi hwn fod yn amherthnasol yn cynnwys cwynion sy'n ymwneud â materion a fyddai naill ai'n cael eu datrys gan fforwm arall neu y byddai ganddynt eu dull apelio ar wahân eu hunain. Bydd y swyddog a neilltuwyd yn eich cynghori os dyma'r achos unwaith y bydd wedi astudio'ch cwyn.

2.3 Y Swyddog Safonau fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran a ddylid ymdrin â chwyn dan y polisi hwn ai peidio. Pe bai anghytundeb, dylid cyfeirio heriau i benderfyniad y Swyddog Safonau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

2.4 Pan fyddwch yn mynegi pryderon neu'n cwyno i ni, byddwn fel arfer yn ymateb fel yr esbonnir isod. Fodd bynnag, weithiau bydd gennych hawl statudol i apelio (e.e. yn erbyn gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, neu'r penderfyniad i beidio â rhoi lle i'ch plentyn mewn ysgol benodol). Felly, yn hytrach nag ymchwilio i'ch cwyn, byddwn yn esbonio i chi sut gallwch apelio.

2.5 Weithiau efallai y byddwch yn pryderu am faterion nad ydym yn penderfynu arnynt ac mewn achosion o'r fath byddwn yn dweud wrthych sut i gwyno.

2.6 Rôl y Swyddog Cwynion yw ymchwilio i gŵyn a phenderfynu a yw'r Adran Gwasanaeth berthnasol wedi gweithredu'n unol â gofynion deddfwriaethol ai peidio, neu'n unol â pholisïau a gweithdrefnau cymeradwy.  Nid rôl y Swyddog Cwynion yw newid unrhyw benderfyniadau a wnaed yn gywir.

 

3. Pryd i gysylltu â'r adran gwasanaeth berthnasol

3.1 Os ydych yn dod atom i gael gwasanaeth am y tro cyntaf (e.e. adrodd am oleuadau stryd diffygiol, gofyn am apwyntiad etc.), yna nid yw'r polisi hwn yn berthnasol. Dylech roi cyfle i'r adran gwasanaeth berthnasol ymateb i'ch cais am wasanaeth yn gyntaf.

3.2 Os byddwch yn gofyn am wasanaeth ac nid ydych yn hapus gydag ymateb yr adran i'r cais hwnnw, byddwch yn gallu cwyno drwy ddilyn y canllawiau isod.

 

4. Cwyn cam 1: Datrysiad anffurfiol

4.1 Lle y bo'n bosib, rydym yn ceisio ymdrin â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio'u datrys yn hwyrach. Os oes gennych gŵyn, rhowch wybod i'r person rydych chi'n ymdrin ag ef. Bydd ef/hi yn ceisio ei datrys i chi yn y fan a'r lle.

4.2 Os nad yw'r person rydych yn ymdrin ag ef/â hi yn gallu datrys y mater hwn yn y fan a'r lle, gallwch gyfeirio'r mater at berson uwch yn yr adran gwasanaeth berthnasol er mwyn rhoi ymateb. Gan ddibynnu ar natur y gŵyn, gellir ei datrys dros y ffôn neu'n ysgrifenedig, gan gynnwys drwy e-bost. Pan fydd mater yn cael ei ddatrys drwy alwad ffôn, byddwch yn derbyn llythyr neu e-bost fel cadarnhad o ganlyniad y sgwrs.

4.3 Os bydd unrhyw wersi i'w dysgu wrth fynd i'r afael â'ch cwyn, byddwn yn gweithredu'n briodol ble bynnag y bo'n bosib i roi'r gwersi a ddysgwyd ar waith.

4.4 Bydd yr Adran Gwasanaeth yn darparu ymateb sylweddol i'ch cwyn o fewn 10 niwrnod gwaith clir. Os na chaiff y gŵyn ei datrys er boddhad pawb erbyn hynny caiff ei chodi i gam 2.

4.5 Os cafodd eich cwyn ei chyfeirio i'r adran gwasanaeth berthnasol ac, yn dilyn eu hymateb, rydych dal yn anfodlon, gallwch ofyn am ymchwiliad ffurfiol.

4.6 Mae'r awdurdod, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, yn cadw'r hawl i symud y gŵyn ymlaen yn syth i Gam 2 y Polisi Cwynion.

 

5. Cwyn cam 2: Ymchwiliad ffurfiol

5.1 Nod y cyngor yw datrys cwynion yn gyflym ac yn anffurfiol lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, gallwch drosglwyddo'ch cwyn i Gam 2 y broses gwynion er mwyn i'r Tîm Cwynion ymchwilio iddi. Dyma rai enghreifftiau y gallai cam 2 fod yn berthnasol iddynt:

a) Os yw Adran Gwasanaeth wedi cael digon o gyfle i fynd i'r afael â'ch cwynion ac nid yw wedi rhoi ymateb i chi yn unol â gofynion Cam 4.4 fel a amlinellwyd uchod.
b) Os nad ydych yn meddwl bod eich cwyn wedi'i hystyried yn ddigonol neu'n briodol.
c) Os ydych wedi cael ymateb a'ch bod yn dal yn ddig neu'n anfodlon ar benderfyniad yr Adran Gwasanaeth.

5.2 Os hoffech fynd â'ch cwyn i Gam 2, bydd y swyddog ymchwilio'n gofyn i chi am ragor o wybodaeth i ddeall beth aeth o'i le a'ch canlyniad dymunol i ddatrys y mater.

5.3 Wrth dderbyn cwyn Cam 2, caiff y manylion eu cofnodi ac anfonir cydnabyddiaeth o'i derbyn gan y Tîm Cwynion o fewn 5 niwrnod gwaith clir.

5.4 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Tîm Cwynion yn darparu ymateb sylweddol i'ch cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith clir. Lle nad yw hyn yn bosib, byddwch yn cael gwybod y rheswm am yr oedi yn ysgrifenedig cyn y dyddiad terfynol i ymateb, ynghyd â'r dyddiad y gallwch ddisgwyl cael ymateb llawn.

5.5 Weithiau, bydd gofyn am eglurhad ar y materion penodol y mae'r achwynwr yn gofyn am ymchwiliad iddynt. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Cwynion yn ysgrifennu at yr achwynydd gyda chrynodeb o'r materion yn ôl ei ddealltwriaeth o'r sefyllfa, gan ofyn i'r achwynydd gytuno bod y materion a nodwyd yn gynhwysfawr ac yn gywir, neu i roi eglurhad pellach.

5.6 Pan fydd gofyn gweithredu fel hyn, bydd yr amserlen 20 niwrnod gwaith clir yn dechrau pan fydd y ddwy ochr wedi cytuno ar y materion penodol a fydd yn destun yr ymchwiliad. Os na fydd ymateb yn cael ei dderbyn gan yr achwynwr o fewn 28 niwrnod gwaith i ofyn am eglurhad, bydd y gŵyn yn cael ei chau.

 

6. Sut i wneud cwyn

6.1 Gallwch wneud cwyn drwy un o'r ffyrdd isod.

  • Ar-lein: Gwneud cwyn
  • E-bost / ffon / llythyr: Cysylltu â'r Tîm Cwynion
  • Ffurflen gwyno wedi'i hargraffu - ar gael gan y Tim Cwynion neu ein canolfannau gwasanaeth
  • Gall staff y Gwasanaethau Cwsmeriaid eich helpu i lenwi'r ffurflen ar-lein - ffoniwch 01792 636000
  • Mae gwybodaeth ar gael mewn gwahanol fformatau hefyd, e.e. Saesneg (ac ieithoedd eraill ar gais), tâp sain, Braille, print bras etc: Cysylltu â'r Tîm Cwynion

6.2 Ein nod yw bod ffurflenni a ffeithlenni cwynion ar gael mewn copi caled ym mhob un o swyddfeydd cyhoeddus Dinas a Sir Abertawe. Fel arall, gall staff y Gwasanaethau Cwsmeriaid eich helpu i lenwi'r ffurflen ar-lein. Mae copïau o'r Polisi Cwynion a'r ffurflen gwyno ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a gallwn hefyd eu darparu mewn ieithoedd eraill. Mae fformatau megis sain, Braille neu brint bras ar gael hefyd os bydd angen.

 

7. Mynd i'r afael â'ch cwyn

7.1 Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth o'ch cwyn o fewn 5 niwrnod gwaith clir.  Byddwn fel arfer yn ymateb i chi yn yr un ffordd ag yr ydych wedi cyfathrebu â ni (e.e. os ydych wedi gwneud cwyn drwy anfon e-bost atom yn Gymraeg, byddwn yn ymateb drwy anfon e-bost yn Gymraeg) oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni bod gennych ofynion penodol.

7.2 Byddwn yn ymdrin â'ch cwyn mewn ffordd agored a gonest a byddwn yn sicrhau nad yw eich trafodion â ni yn y dyfodol yn dioddef oherwydd eich bod wedi cwyno.

7.3 Fel arfer, byddwn yn gallu ystyried eich cwynion os ydych yn cwyno o fewn 12 mis yn unig. Y rheswm dros hyn yw ei fod yn well ymchwilio i'ch cwyn pan fo'r materion yn ffres ym meddyliau pawb.

7.4 Mewn amgylchiadau eithriadol, gallem ystyried pryderon sy'n dod i'n sylw yn hwyrach na hyn. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i chi roi rhesymau da pam nad ydych wedi rhoi gwybod i ni am hyn yn gynt a bydd angen digon o wybodaeth arnom am y mater i'n galluogi i'w ystyried yn iawn. Y Swyddog Safonau sy'n gwneud y penderfyniad terfynol i ymchwilio ar ôl 12 mis ai peidio.

7.5 Os ydych yn mynegi pryder ar ran rhywun arall, bydd angen i ni gael cytundeb y person hwnnw i chi weithredu ar ei ran. Gellir cael ffurflen gytundeb ysgrifenedig ar-lein yn: www.abertawe.gov.uk/GwneudCwyn.

 

8. Pan fo mwy nag un sefydliad yn rhan o'r gŵyn

8.1 Os yw eich cwyn yn ymwneud â mwy nag un sefydliad (e.e. cymdeithas tai a'r awdurdod parthed niwsans sŵn) byddwn fel arfer yn gweithio gyda'r corff arall i benderfynu pwy dylai arwain wrth ddelio â'ch pryderon. Yna byddwch yn derbyn enw'r person sy'n gyfrifol am gyfathrebu â chi wrth i ni ystyried eich cwyn.

8.2 Os yw'r gŵyn yn ymwneud â chorff sy'n gweithio ar ein rhan (e.e. cwmni arbenigol sydd wedi'i gontractio gan yr awdurdod), efallai yr hoffech godi'r mater yn anffurfiol gyda nhw yn gyntaf. Fodd bynnag, os ydych am fynegi'ch pryder neu'ch cwyn yn ffurfiol, byddwn yn ymchwilio i'r mater ein hunain ac yn ymateb i chi.

 

9. Ymchwilio i'ch cwyn

9.1 Byddwn fel arfer yn trafod eich cwyn gyda'r Adran Gwasanaeth dan sylw ac yn cysylltu â chi wedi hynny. Mewn rhai achosion (h.y. achosion sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol lle mae gweithdrefn statudol yn berthnasol) efallai y byddwn yn penodi ymchwilydd annibynnol.

9.2 Byddwn yn nodi i chi ein dealltwriaeth o'ch pryderon ac yn gofyn i chi gadarnhau ein bod wedi'ch deall yn iawn. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddweud wrthym y canlyniad rydych yn dymuno'i gael.

9.3 Fel arfer, bydd angen i'r person sy'n ymdrin â'ch cwyn weld y ffeiliau sy'n berthnasol i'ch cwyn. Os nad ydych am i hyn ddigwydd, mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym ar yr adeg y byddwch yn cyflwyno'ch cwyn.

9.4 Os oes ateb syml i'ch problem, efallai y byddwn yn gofyn a ydych chi'n hapus i dderbyn hyn. Er enghraifft, os byddwch yn gofyn am wasanaeth a gwelwn ar unwaith y dylech fod wedi'i dderbyn; byddwn yn cynnig darparu'r gwasanaeth yn hytrach nag ymchwilio.

9.5 Byddwn yn ceisio datrys unrhyw bryderon cyn gynted â phosib ac yn disgwyl ymdrin â'r mwyafrif helaeth ohonynt o fewn 20 diwrnod gwaith clir. Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn:

9.5.1 Rhoi gwybod i chi o fewn yr amser hwn pam y gallai cymryd mwy o amser i ymchwilio iddi;

9.5.2 Dweud wrthych faint o amser rydym yn disgwyl i'r ymchwiliad ei gymryd; a

9.5.3 Rhoi diweddariadau rheolaidd i chi, gan gynnwys dweud wrthych a allai unrhyw ddatblygiadau newid ein hamcangyfrif gwreiddiol.

9.6 Bydd y person sy'n ymchwilio i'ch cwyn yn ceisio sefydlu'r ffeithiau i ddechrau. Bydd maint yr ymchwiliad hwn yn dibynnu ar gymhlethdod y materion rydych wedi'u codi. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gofyn i chi gwrdd â ni i drafod eich cwyn. Yn achlysurol, efallai y byddwn yn ystyried cyfryngu neu ddull arall i geisio datrys anghydfodau.

9.7 Byddwn yn edrych ar dystiolaeth berthnasol. Gallai hyn gynnwys ffeiliau, nodiadau am sgyrsiau, llythyrau, e-byst neu unrhyw beth a allai fod yn berthnasol i'ch cwyn benodol. Os oes angen, byddwn yn siarad â staff neu eraill sy'n ymwneud â'r gŵyn ac yn edrych ar ein polisïau ac unrhyw hawl ac arweiniad cyfreithiol.

 

10. Canlyniad i'ch cwyn

10.1 Os byddwn yn ymchwilio'n ffurfiol i'ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym wedi'i ganfod drwy ddefnyddio'ch dull cyfathrebu dewisol. Gallai hyn fod ar ffurf llythyr neu e-bost, er enghraifft. Os oes angen, byddwn yn cynhyrchu adroddiad hirach.

10.2 Byddwn yn esbonio sut a pham y daethom i'n casgliadau. Os ydym yn darganfod bod yr Adran Gwasanaeth wedi gwneud rhywbeth o'i le, byddwn yn dweud wrthych beth aeth o'i le a pham. Byddwn yn dangos sut yr effeithiodd y camgymeriad arnoch.

10.3 Os ydym yn canfod bod diffyg yn ein systemau neu'r ffordd rydym yn gwneud pethau, byddwn yn esbonio beth ydyw a sut rydym yn bwriadu newid pethau er mwyn ei atal rhag digwydd eto. Os gwnaethom gamgymeriad, byddwn bob amser yn ymddiheuro.

 

11. Gwneud yn lawn

11.1 Os na wnaethom ddarparu gwasanaeth y dylech fod wedi'i dderbyn, byddwn yn anelu at ei ddarparu cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Os nad ydym wedi gwneud rhywbeth yn dda iawn, byddwn yn ceisio gwneud yn iawn am hynny.  Os ydych wedi bod ar eich colled o ganlyniad i gamsyniad ar ein rhan ni, byddwn fel arfer yn ceisio eich rhoi chi yn ôl yn y sefyllfa a fyddai wedi bod yn berthnasol pe bawn wedi gweithredu'n gywir y tro cyntaf.

11.2 Pe bai'n rhaid i chi dalu am wasanaeth eich hun, ond y dylech fod wedi derbyn un gennym ni, neu os oedd gennych hawl i gyllid na wnaethoch ei dderbyn, byddwn fel arfer yn ceisio ad-dalu'r hyn yr ydych wedi'i golli.

11.3 Os ydych yn cwyno am fethiant a arweiniodd at anaf personol, colled neu ddifrod i eiddo, ymdrinnir ag unrhyw hawliad am iawndal rydych yn dymuno ei wneud ar wahân gan yr Is-adran Yswiriant ac ni ellir ymdrin ag ef yn unol â'r broses gwyno.

 

12. Ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus Cymru

12.1 Os nad ydym yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol o bob corff cyhoeddus a gall ymchwilio i'ch cwyn os ydych chi'n credu eich bod chi'n bersonol, neu'r person rydych chi'n cwyno ar ei ran:

12.1.1 Wedi cael triniaeth annheg neu wedi cael gwasanaeth gwael trwy'r corff sy'n ei ddarparu; neu

12.1.2 Wedi eich rhoi dan anfantais yn bersonol gan fethiant gwasanaeth neu eich bod wedi cael triniaeth annheg.

12.2 Mae'r Ombwdsmon yn disgwyl i chi fynegi eich pryderon i ni yn gyntaf er mwyn rhoi cyfle i ni wneud yn iawn am y sefyllfa.

12.3 Gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon dros y ffôn, drwy e-bost, drwy'r wefan neu'n ysgrifenedig gan ddefnyddio'r manylion cyswllt yn: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

13. Cwynion Iaith Gymraeg

13.1 Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau penodol i gydymffurfio â safonau penodol o ran y Gymraeg drwy is-ddeddfwriaeth (Rheoliadau Safonau'r Gymraeg).

Gellir gweld yr holl wybodaeth sy'n ymwneud â gweithrediad Cyngor Abertawe o'r safonau a'r adroddiadau blynyddol ar-lein yn: www.abertawe.gov.uk/cymraeg

13.2 O ran cwyn iaith Gymraeg, bydd y cyngor yn dilyn yr un dull a nodwyd drwy gydol y polisi hwn. Yn ogystal, bydd y swyddogion ymchwilio yn ymgynghori ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, y Safonau, y Côd Ymarfer a chanllawiau'r Comisiynydd cyn gwneud penderfyniad. Bydd cwynion neu bryderon am y Gymraeg yn dilyn yr un amserlenni a chamau a amlygwyd eisoes yn y polisi hwn.

13.3 Fel yr amlygir yn adran 4, bydd y cyngor yn ceisio datrys cwyn am yr Iaith Gymraeg yn gyflym ac yn anffurfiol yn gyntaf (cam 1) gyda'r maes gwasanaeth perthnasol ac o fewn 10 niwrnod gwaith clir. Mae adran 6 yn ymdrin â sut i wneud cwyn. Bydd cwynion Cam 1 yn cael eu dyrannu i'r swyddog priodol sy'n ymdrin â chwynion am y gwasanaeth penodol hwnnw, a byddant yn cael eu holrhain a'u monitro.

13.4 Mae adran 5 yn amlinellu sut i drosglwyddo'ch cwyn i gam 2.

13.5 Bydd y Swyddog Safonau yn ymchwilio i gwynion cam 2 am yr Iaith Gymraeg. Anfonir cydnabyddiaeth gychwynnol o fewn 5 niwrnod gwaith clir.

13.6 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y Tîm Cwynion yn darparu ymateb sylweddol i'ch cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith clir. Lle nad yw hyn yn bosib, byddwch yn cael gwybod y rheswm am yr oedi yn ysgrifenedig cyn y dyddiad terfynol i ymateb, ynghyd â'r dyddiad y gallwch ddisgwyl cael ymateb llawn.

13.7 Weithiau, bydd gofyn am eglurhad ar y materion penodol y mae'r achwynwr yn gofyn am ymchwiliad iddynt. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Swyddog Safonau yn ysgrifennu at yr achwynydd gyda chrynodeb o'r materion i'w hymchwilio yn ôl ei ddealltwriaeth o'r sefyllfa, gan ofyn i'r achwynydd gytuno bod y materion a nodwyd yn gynhwysfawr ac yn gywir, neu i roi eglurhad pellach.

13.8 Pan fydd gofyn gweithredu fel hyn, bydd yr amserlen 20 niwrnod gwaith clir yn dechrau pan fydd y ddwy ochr wedi cytuno ar y materion penodol a fydd yn destun yr ymchwiliad. Os na fydd ymateb yn cael ei dderbyn gan yr achwynwr o fewn 28 niwrnod gwaith i ofyn am eglurhad, bydd y gŵyn yn cael ei chau.

13.9 Yn unol â'r safonau 'Cadw Cofnodion', bydd y Swyddog Safonau yn cofnodi'r gŵyn am yr Iaith Gymraeg yn erbyn y categori safonau perthnasol, h.y. Darparu Gwasanaethau, Llunio Polisïau, neu Safonau Gweithredol.

13.10 Caiff yr holl gwynion am yr Iaith Gymraeg a dderbynnir yn uniongyrchol gan y cyngor eu hadolygu gan y Swyddog Safonau ac adroddir amdanynt yn Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg y cyngor.

13.11 Mae cyngor, canllawiau defnyddiol a hyfforddiant rhithwir ar gael i staff ar y fewnrwyd. Mae hyfforddiant ar-lein yn rhan o'r cyfnod ymsefydlu ar gyfer dechreuwyr newydd a chynghorir staff presennol i wneud hyfforddiant gloywi bob dwy flynedd.

13.12 Mae'r cyngor yn cynnal ymgyrchoedd ar y fewnrwyd o bryd i'w gilydd a thrwy gylchlythyrau i gynyddu ymwybyddiaeth staff o'r gweithdrefnau a Safonau'r Gymraeg. Gellir dod o hyd i gymorth i swyddogion sy'n delio â chwynion ar y fewnrwyd a gall staff ofyn am arweiniad pellach gan y Swyddog Safonau.

13.13 Mae gan y cyngor yr holl ddeunydd angenrheidiol i swyddogion ymdrin â chwyn ar safle Sharepoint canolog.

13.14 Efallai y bydd adegau prin lle bydd y gofyniad i gydymffurfio â safon wedi'i ohirio drwy her neu apêl. Yn y senario hwn bydd y Swyddog Safonau yn rhoi cyngor.

13.15 Ceir sefydliadau eraill hefyd sy'n ystyried cwynion, er enghraifft, Comisiynydd y Gymraeg. Os hoffech gwyno am y diffyg gwasanaethau yn Gymraeg neu fod rhywun yn ymyrryd â'ch rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, gallwch gysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg drwy:

  • ffôn: 0345 6033 221
  • e-bost: post@cyg-wlc.cymru
  • ysgrifennu at: Comisiynydd y Gymraeg, Siambrau'r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1AT

 

14. Dysgu gwersi

14.1 Rydym yn cymryd eich cwynion o ddifrif ac yn ceisio dysgu o unrhyw gamgymeriadau rydym wedi'u gwneud. Mae'r Cabinet yn derbyn Adroddiadau Cwynion Blynyddol manwl sy'n cynnwys argymhellion ar gyfer gwella ymarfer.

14.2 Ble bynnag y bo angen newid, bydd adrannau gwasanaethau'n datblygu cynllun gweithredu sy'n nodi'r hyn y byddant yn ei wneud, pwy fydd yn gwneud hynny a phryd byddant yn ei weithredu. Byddant yn rhoi gwybod i chi pan fydd newidiadau rydym wedi'u haddo wedi'u cyflawni.

 

15. Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych?

15.1 Ar adegau o drafferth neu ofid, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i'w cymeriad. Mae'n bosib y cafwyd amgylchiadau gofidus neu annifyr yn y cyfnod cyn mynegi pryder neu gŵyn. Nid ydym yn ystyried ymddygiad yn annerbyniol am fod rhywun yn benderfynol neu'n ddi-ildio.

15.2 Rydym yn credu bod hawl gan bob achwynydd i gael ei glywed, ei ddeall a'i barchu. Fodd bynnag, mae gan ein staff yr un hawliau. Felly rydym yn disgwyl i chi fod yn gwrtais pan rydych yn ymwneud â ni.

15.3 Os ystyrir bod achwynwr yn ymddwyn mewn modd afresymol, gall cyfyngiadau cyswllt gael eu rhoi ar waith yn unol â'n Polisi Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid, y gellir ei weld ar-lein yn: www.abertawe.gov.uk/ymddygiad.

 

16. Os oes angen mwy o gymorth arnoch

16.1 Bydd ein staff yn ceisio'ch helpu i'n hysbysu am eich pryderon. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, byddwn yn ceisio rhoi manylion cyswllt rhywun arall a all eich helpu.

16.2 Os ydych dan 18 oed, gallwch hefyd gwyno gan ddefnyddio'r polisi hwn.  Gallwch gysylltu â rhywun ar:

Llinell Gymorth Meic

Comisiynydd Plant Cymru

16.3 Os ydych dros 60 oed, mae help ar gael i chi hefyd. Cysylltwch â:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

  • Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Tre-biwt, Caerdydd CF10 5FL
  • Rhif ffôn: 03442 640 670 neu 02920 445030

 

Cafodd y Polisi hwn ei adolygu a'i ddiweddaru: Ionawr 2016, Mehefin 2021

Close Dewis iaith