
Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yn Abertawe
Paratowyd y Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori mewn ymateb i ganllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru).
Mae'n cydnabod y bydd llawer o bobl yn ofalwyr di-dâl ar ryw adeg yn eu bywydau, a bod angen ffyrdd newydd o weithio er mwyn diwallu'r galw ac anghenion gofalwyr i gael bywyd eu hunain ochr yn ochr â'u rôl gofalu.
Gwerthfawrogi Gofalwyr
Gosoda'r strategaeth hon y gefnogaeth y bwriadwn ei rhoi i ofalwyr yng nghyd-destun gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth dda. Bydd angen ymroddiad i gynnwys pawb, gan gynnwys gofalwyr, mewn penderfyniadau am gynllunio gofal, darparu gwybodaeth a hyfforddiant.