Toglo gwelededd dewislen symudol

Taith gerdded Gerddi Clun

Pellter: 1 milltir/ 1.6km

Mae'r parc arbennig hwn yn wirioneddol ogoneddus, gyda rhywogaethau prin blodeuog, casgliadau cenedlaethol ac arddangosfeydd blynyddol enwog. Yn ystod mis Mai, rydym yn dathlu Gerddi Clun yn eu Blodau a chynhelir llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ymwelwyr o bob oedran. Mae Gerddi Clun yn enwog yn rhyngwladol am eu casgliadau rhagorol o rododendronau ac asaleâu sydd ar eu mwyaf godidog ym mis Mai. Mae dewis o lwybrau sy'n cynnwys llwybrau â phafin a llwybrau heb balmant ac ardaloedd fflat neu oleddfol. Mae toiledau ar gael yn y parc gerllaw ac mae lluniaeth hefyd ar gael.

Man dechrau a gorffen

Maes parcio oddi ar Heol y Mwmbwls ger The Woodman

Sut i gyrraedd

Maes parcio Gerddi Clun oddi ar Heol y Mwmbwls ger The Woodman a safle bws gerllaw

Cyfleusterau

Mae toiledau ar gael yn y parc gerllaw ac mae lluniaeth hefyd ar gael.

Clyne Gardens walk (PDF) [165KB]

Close Dewis iaith