Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Asesiad Trafnidiaeth o Goridor Ffordd Fabian

Bydd Coridor Ffordd Fabian yn mynd trwy ddatblygiad sylweddol yn y 25 mlynedd nesaf, gan greu mwy o alw teithio.

Mae'n bwysig y llunnir strategaeth drafnidiaeth gytbwys i gefnogi datblygiad cynaliadwy'r coridor a hwyluso adfywio economaidd ehangach yn y dalgylch amgylchynol.

Mae'r astudiaeth yn cwmpasu'r llwybr strategol i ddwyrain Abertawe ac o fewn ffiniau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe.

Felly, cynhaliwyd Asesiad Trafnidiaeth o Goridor Ffordd Fabian i:

  • Adolygu allbynnau astudiaethau ac asesiadau blaenorol yn ardal yr astudiaeth;
  • Asesu'r cyfleoedd a'r cyfyngiadau ar y coridor;
  • Nodi opsiynau trafnidiaeth priodol i wella symudiad pobl a llwythi trwy gydol y coridor;
  • Cyflwyno strategaeth gadarn, gynhwysfawr a chynaliadwy ar gyfer y coridor, gan gynnwys pennu'r ffrydiau ariannu posibl; a
  • Sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu cynnwys yn llwyr.  

Cyhoeddwyd yr astudiaeth wreiddiol yn 2010 a phennodd gyfres o strategaethau ar gyfer y datblygiad disgwyliedig dros y blynyddoedd i ddod. O ganlyniad, diwygiwyd yr astudiaeth yn 2014 er mwyn gwirio cywirdeb yr adroddiad gwreiddiol nawr bod datblygiadau cynnar yn dwyn ffrwyth.         

Felly, bydd Asesiad Trafnidiaeth o Goridor Ffordd Fabian yn cael ei ddefnyddio fel y brif ddogfen strategaeth i lywodraethu ac arwain datblygiad isadeiledd twristiaeth er mwyn cefnogi gweddnewid y coridor hwn yn y blynyddoedd i ddod.

Close Dewis iaith