Toglo gwelededd dewislen symudol

16 - Wedi parcio mewn lle neu barth trwydded

 

Mae gen i gerdyn parcio dilys i breswylwyr

Os oes gennych gerdyn parcio preswylwyr dilys nad oedd wedi'i arddangos yn glir, efallai y byddwn yn ystyried eich her

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Mae gen i fathodyn glas

Os oes gennych fathodyn glas dilys, efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y bathodyn glas:

  1. wedi disgyn
  2. wedi ei gau
  3. wyneb i waered
  4. heb ei roi allan i'w arddangos

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o ddwy ochr eich bathodyn glas. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio ac yr hoffech chi fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Doedd dim arwydd

Dylech ystyried eich bod, o bosibl,  wedi parcio mewn parth parcio preswyl, lle'r oedd yr arwyddion wrth fynedfeydd y parth. Os ydych yn sicr nad oedd unrhyw arwyddion wrth fynedfa'r parth, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu digon o dystiolaeth i ddangos nad oedd unrhyw arwydd. Gofynnwn i chi ddarparu lluniau o'r stryd sy'n dangos nad oedd arwyddion.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Mae gen i drwydded gofal/Rwy ' n weithiwr gofal iechyd

Os oes gennych drwydded gofal ddilys sy'n cael ei chyhoeddi gan Gyngor Abertawe, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o'ch trwydded. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Rydw i wedi cael dau hysbysiad tâl cosb

Efallai y byddwn yn ystyried eich her os oedd y ddau hysbysiad tâl cosb:

  1. wedi eu rhoi ar yr un diwrnod
  2. wedi eu rhoi ar yr un stryd
  3. wedi eu rhoi am yr un tramgwydd

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Os ydych wedi cael dau hysbysiad tâl cosb ar yr un diwrnod ar yr un stryd ac am yr un camwedd, bydd angen i chi Challenge a PCN ar-lein a rhoi rhif cofrestru'ch cerbyd ynghyd â'r rhif WJ a argraffwyd ar yr hysbysiad tâl cosb a gafodd ei roi yr eildro. Bydd ein tîm yn ymchwilio i'ch her ac yn dileu unrhyw hysbysiad tâl cosb sy'n perthyn i'r categori hwn. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Roedd gen i gerdyn crafu ymwelwyr neu fusnes dilys

Os oedd gennych gerdyn crafu ymwelwyr neu fusnes dilys nad oedd wedi'i arddangos yn glir, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho copi o'r cerdyn crafu ymwelwyr neu fusnes dilys. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Roeddwn i'n llwytho / dadlwytho

Os oeddech chi wrthi'n llwytho neu'n dadlwytho nwyddau trwm o'r cerbyd ac i ffwrdd o'r cerbyd am gyfnod o amser oherwydd;

  1. roeddech wedi parcio mor agos ag y gallech i'r lleoliad cludo
  2. roedd yr eitem/au yr oeddech yn eu cludo naill ai'n fregus, yn anodd ieu symud neu'n drwm iawn

Os felly, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. I brofi eich bod yn llwytho neu'n dadlwytho, bydd angen i chi ddarparu copi o ' r daith, taflen waith, derbynneb neu anfoneb gyda chyfeiriad y lleoliadau. Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi atebion i'r cwestiynau canlynol:

  1. Beth oedd pwysau'r eitem / eitemau?
  2. Pam nad oedd unrhyw weithgarwch i'w weld o amgylch y cerbyd?
  3. Faint o amser a gymerodd i chi gwblhau'r dasg?
  4. Pam cymerodd y dasg gyhyd ag a wnaeth?
  5. Rhowch ddisgrifiad o'r eitem / eitemau.

Caiff pob achos ei adolygu'n unigol felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Roedd gen i argyfwng meddygol

Os oedd hi'n argyfwng meddygol arnoch, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. Bydd angen i chi roi llythyr ffurfiol i ni oddi wrth weithiwr iechyd proffesiynol a oedd yn eich trin chi neu deithiwr yn uniongyrchol ar ôl y digwyddiad. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

 

Mae fy ngherbyd wedi ei glonio

Os ydych wedi derbyn PCN drwy'r post gan Gyngor Abertawe a'ch bod yn sicr mai nid chi oedd hwn, efallai fod eich cofrestriad eich cerbyd wedi'i glonio. Mae hon yn drosedd ddifrifol a rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu amdano cyn gynted ag y bo modd. 

Os credwch fod eich cerbyd wedi'i glonio, efallai y byddwn yn ystyried eich her. Gallwch Challenge a PCN ar-lein. Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ni nad oeddech chi na'ch cerbyd yn bresennol pan gyhoeddwyd yr hysbysiad tâl cosb. Gallai hynny fod yn dderbynneb o'r diwrnod hwnnw, er enghraifft. Caiff pob achos ei adolygu'n unigol, felly efallai na fydd eich her yn llwyddiannus.

Os penderfynwch beidio â herio a hoffech fanteisio ar y pris gostyngol: Pay a PCN / parking fine

Close Dewis iaith