Datganiadau i'r wasg Awst 2019

Myfyrwyr Abertawe'n dathlu eu llwyddiannau Safon Uwch
Mae myfyrwyr Safon Uwch Abertawe'n dathlu wedi iddynt dderbyn canlyniadau gwych sy'n uwch na chyfartaleddau Cymru a'r DU.

Amser cofrestru ar gyfer dosbarthiadau dysgu i oedolion
Mae'r cyfle i gofrestru ar-lein ar gyfer yr amrywiaeth diweddaraf o gyrsiau a gynhelir gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe yn agor ddydd Llun (2 Medi).

Baneri gwyrdd yn chwifio mewn mannau prydferth yn y ddinas
Mae deunaw o hoff fannau prydferth Abertawe wedi derbyn statws nodedig y Faner Werdd neu statws Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Castell Ystumllwynarth i groesawu tywysogion a thywysogesau
Gall pobl ifanc sydd am fod yn dywysog neu'n dywysoges am y diwrnod gael eu castell eu hunain hefyd os ydynt yn mynd i Gastell Ystumllwynarth yn hwyrach y mis hwn.
Lido poblogaidd wedi'i ailagor ar ôl cael ei fandaleiddio
Mae Lido Blackpill wedi ailagor yn dilyn achos o fandaliaeth.

Ymunwch yn nathliadau Abertawe 50 yn eich llyfrgell leol
Mae holl lyfrgelloedd Cyngor Abertawe'n ymuno yn yr haf llawn dathliadau ar gyfer hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas.

Landlord absennol yn derbyn dirwy ar ôl gadael teulu heb foeler
Bydd angen i landlord absennol dalu dros £9,000 mewn dirwyon a chostau ar ôl cael ei euogfarnu am beidio â chael trwydded landlord ar ôl i denant gwyno i'r cyngor am gyflwr ei dŷ.

Hwyl Ganoloesol yng Nghastell Ystumllwynarth
Gall pobl ifanc sydd am fod yn grefftus dros yr haf deithio'n ôl i'r gorffennol yn ystod gweithdai galw heibio canoloesol yng Nghastell Ystumllwynarth y mis hwn.
Gerddi Botaneg yn dathlu canmlwyddiant parc poblogaidd
Cynhelir dathliadau i nodi canmlwyddiant Parc Singleton Abertawe drwy gydol mis Awst.

Translation Required: Work on-going to re-open Blackpill Lido as soon as possible
Translation Required: Clean-up work is well underway to re-open Blackpill Lido as soon as possible after a large quantity of cooking oil was poured into the water.

Gallai ymweliadau â'r traeth dros yr haf dorri recordiau, meddai achubwyr bywyd
Disgwylir i fwy o ymwelwyr nag erioed ddod i fwynhau'r haul a'r tonnau ar draethau Abertawe'r haf hwn, yn ôl achubwyr bywyd yr RNLI.

Bywyd nos dinas Abertawe'n gobeithio chwifio'r Faner Borffor unwaith eto
Mae bywyd nos Abertawe'n ymgeisio i gadw statws y Faner Borffor am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.
Gweithredwr caffi poblogaidd yn dychwelyd i Abertawe
Mae brand cyfarwydd o Abertawe yn dychwelyd i helpu i gryfhau diwylliant caffi ffyniannus canol y ddinas.

Band pop ABC o'r 80au i berfformio yn Proms yn y Parc BBC Cymru 2019
Mae'r grŵp pop ABC yn dod â blas yr 80au i Parc Singleton eleni ac yn ymuno â rhestr perfformwyr Proms yn y Parc BBC Cymru yn Abertawe, dydd Sadwrn 14 Medi, 2019. Bydd y band yn perfformio rhai o'u caneuon adnabyddus sy'n cynnwys 'The Look of Love' a 'Poison Arrow'.

Gwaith gwella tagfa ddrwg-enwog yng nghanol y ddinas i leihau ciwiau
Bydd gwaith gwella traffig mawr er mwyn lleihau ciwiau yn ardal tagfa draffig yn Abertawe'n dechrau'n hwyrach eleni.

Cyllideb y cyngor ar y trywydd iawn er gwaethaf galw cynyddol am wasanaethau
Yn ôl adroddiad a welwyd gan y Cabinet, mae cyllideb Cyngor Abertawe mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â heriau megis caledi a galw cynyddol am wasanaethau dros y flwyddyn sydd ar ddod.

Gwaith ym Mhen-lan yn gwneud canolfan hamdden yn addas ar gyfer y dyfodol
Mae gwaith i ailwampio Canolfan Hamdden Pen-lan ar waith.

Contractau newydd i roi hwb i ofal cartref
Cyflwynir gwelliannau i'r gofal a'r gefnogaeth a ddarperir i rai pobl yn Abertawe yn eu cartrefi eu hunain fesul cam o fis Hydref.

Tai cyngor i dderbyn buddsoddiad pellach gwerth £117m
Bydd degau ar filiynau o bunnoedd yn cael eu gwario dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o waith adnewyddu mwyaf cartrefi Cyngor Abertawe er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Gwaith atgyweirio gwerth £6 miliwn i roi hwb i gynlluniau trawsnewid canol dinas Abertawe
Mae'r gwaith wedi dechrau ar gynllun gwerth £6m i drawsnewid un o adeiladau amlycaf canol dinas Abertawe.
Mae ein Maradona papur a phast yn cael ei arddangos eto
Bydd cyhoedd Abertawe yn cael y cyfle i weld darn o gelf sydd heb gael ei arddangos ers tua 30 o flynyddoedd.

Adeilad blaengar uwch-dechnoleg gwerth £30 miliwn i gael ei ddylanwadu gan y cyhoedd
Mae trigolion Abertawe'n cael cyfle i lywio un o brif gynlluniau adfywio'r ddinas.