Toglo gwelededd dewislen symudol

Bathodynnau Glas ar gyfer sefydliadau

Os yw'r sefydliad yn defnyddio cerbyd i gludo pobl anabl a fyddai fel arfer yn derbyn bathodyn eu hunain, mae'n bosib y gallant hawlio Bathodyn Glas ar gyfer y sefydliad.

I fod yn gymwys mae'n rhaid i'r sefydliad hefyd fod yn gyfrifol am ofalu am y bobl anabl yn ogystal â'u cludiant. Os mai ond ychydig o'r bobl y gofelir amdanynt gan y sefydliad sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer bathodyn, dylai'r bobl anabl eu hunain wneud cais yn hytrach na'r sefydliad. Bydd hyn yn caniatáu i'r deiliaid ddefnyddio'u bathodynnau mewn unrhyw gerbyd y maent yn teithio ynddo.

Dylech ffonio ni ar 01792 637366 i drefnu apwyntiad yn y Ganolfan Ddinesig. Os oes posibilrwydd y byddwch yn cael anhawster i gyrraedd y Ganolfan Ddinesig, dylech grybwyll hyn pan fyddwch yn ein ffonio a byddwn yn egluro'r trefniadau sydd gennym i'ch helpu. Byddwn yn gofyn am rai manylion gennych i weld a ydych yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf,

Os yw'n debygol y bydd hawl gennych i gael Bathodyn Glas, byddwn hefyd yn dweud wrthych pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno pan fyddwch yn dod i'r ganolfan gyswllt. 

Defnyddio'r bathodyn

Bydd y Bathodyn Glas yn dod gyda llyfryn Bathodynnau Glas: hawliau a chyfrifoldebau trefniadol sy'n rhoi gwybodaeth am sut a phryd y dylech ddefnyddio'ch bathodyn, gan gynnwys lle gallwch barcio neu beidio. Dylai pob gweithiwr yn y sefydliad sy'n gyfrifol am gludo pobl anabl wybod rheolau'r cynllun fel nad ydynt yn camddefnyddio'r bathodyn heb yn wybod iddynt.

Close Dewis iaith