Ni fydd y sgip pren ar gael yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) Penlan o 22 Ionawr 2019. Gall gwastraff pren gael ei ailgylchu yn CAGC Llansamlet o hyd.
Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro a gwahanu graddau gwahanol o bren er mwyn gwella ailgylchu/triniaeth gwastraff pren yn dilyn craffu manwl gan reoleiddwyr a Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf.
Bydd gan CAGC Penlan fwy o le ar gyfer cynwysyddion wrth gefn ar gyfer deunyddiau eraill ar y safle er mwyn lleihau'r tebygrwydd o wrthod defnyddwyr y safle os ydy'r cynwysyddion yn llawn.
Diolch am eich cydweithrediad.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Penlan
Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BS.
Ar agor 7 niwrnod yr wythnos, 8.30am - 5.00pm.
Ar agor tan 1.00pm ar Noswyl Nadolig. Mae ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Darganfyddwch yr hyn y gellir ei ailgylchu ar y safle hwn.