Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ceffylau ar draethau

Mae cyfyngiadau ar farchogaeth ceffylau ar rai traethau yn Abertawe rhwng 1 Mai a 30 Medi.

Nid oes hawl marchogaeth ceffylau nac anifeiliaid eraill rhwng 9.00am a 7.00pm ar y traethau canlynol:

  • Bae Abertawe (y cyfan)
  • Bae Bracelet
  • Bae Limeslade
  • Bae Rotherslade
  • Bae Langland
  • Bae Caswell

Edrychwch ar y map ar y dudalen cŵn ar y traeth i gael lleoliad y traethau hyn.

Mae'r is-ddeddf hon ar waith o 1 Mai tan 30 Medi (yn gynhwysol) bob blwyddyn.

Nid yw'r is-ddeddf yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • plant yn marchogaeth merlod neu asynnod a arweinir gan rywun ar droed.

Gall unrhyw droseddwyr dderbyn collfarn ddiannod neu ddirwy.

Close Dewis iaith