Dysgu Gydol Oes - Chwarae iwcalili i'r rhai sy'n gwella
Cynyddwch eich sgiliau wrth chwarae iwcalili.
(A012117.KM)
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â gwybodaeth resymol o gerddoriaeth ac iwcalili, ond sydd eisiau gwella'u sgiliau. Disgwylir i fyfyrwyr wybod ystod o gordiau syml, er enghraifft, C, D, G, E, F, A, Am, Em, Dm a.y.ym. Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i ddeall beth yw cordiau 7fed a bydd yn dilyn taflenni caneuon syml gan ddefnyddio blychau cordiau iwcalili. Bydd y dosbarth yn gwella ar batrymau strymio syml ac yn dilyn curiad.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Fideos wythnosol wedi'u recordio ymlaen llaw ac yna sesiynau grŵp ar-lein byw.
- Darperir taflenni caneuon i chwarae gyda nhw.
- Taflenni gwaith a thaflenni ychwanegol.
- Sesiynau cwestiynau ac atebion byw.
- Cyfleoedd i chwarae'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu mewn ystafell ddosbarth rithwir fyw i gael adborth ac arweiniad gan eich tiwtor.
Bydd eich tiwtor hefyd yn darparu cyfleoedd trafod rheolaidd trwy ffrwd Google Classroom.
Dyddiad dechrau: Dydd Llun 11 Ionawr 2021.
Sesiynau byw ar-lein pob dydd Llun o 6.00pm - 6.30pm.
Bydd y cwrs 10 wythnos ar-lein hwn yn cynnwys canllawiau sesiwn y gellir eu hargraffu, taflenni enghreifftiol, aseiniadau a dolenni i wefannau defnyddiol.
Darperir gwersi trwy Google Classrooms. Darperir tiwtorial fideo i helpu myfyrwyr i gael mynediad i Google Classrooms.
Nodwch: bydd angen cyfrif Google ar fyfyrwyr i gael mynediad at ein hadnoddau ystafell ddosbarth. I gael help i sefydlu cyfrif Google a chyrchu ein dysgu ar-lein, gallwch ein ffonio ar 01792 637101.