Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Coed Cwm Penllergaer

Ar gyrion gogleddol Abertawe y mae Coed Cwm Penllergaer sy'n weladwy o draffordd yr M4.

Gallwch ddod i'r man dirgel a hudol hwn i fwynhau cân yr adar, ymhyfrydu yn y blodau gwyllt toreithiog, gweld tystiolaeth o blanhigion egsotig a darganfod nodweddion cudd dyluniad mawreddog.

Yn lle rhamantus a thrawiadol, cafodd Penllergaer ei greu, er pleser y dyn a'i creodd, John Dillwyn Llewelyn, arloeswr ym maes gwyddoniaeth, natur, ffotograffiaeth a seryddiaeth yn y 19eg ganrif. Ar ôl cael ei esgeuluso am fwy na hanner canrif, heddiw mae'n lle y gall pawb ei fwynhau a'i archwilio. Mae'n dirwedd sy'n cael ei hadnewyddu, ei hadfer a'i hadfywio'n raddol gan bob un ohonom.

Close Dewis iaith