Toglo gwelededd dewislen symudol

Coetir Cymunedol Shaw

Meithrinfa Goed Fictoraidd a Gardd Farchnad (1870-1918) oedd Coetir Shaw a sefydlwyd gan ddau frawd o Swydd Efrog, John a William Shaw.

Cyflogwyd 20 o fenywod ganddynt i weithio yn y tai gwydr i dyfu'r planhigion, y llwyni a'r coed. Roedd y feithrinfa'n darparu planhigion ar gyfer ystadau mawr yn yr ardal. Yn ystod digwyddiad agor y parc cyhoeddus cyntaf yn Abertawe, Parc Llewelyn, ym mis Hydref 1878, canmolodd Mr John Dilwyn Llewelyn o Benllergaer gyfraniad Mr J a W Shaw at y gwaith tirlunio.

Yn anffodus, caeodd y feithrinfa ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, ond mae llawer o'r coed arbennig yno o hyd. Yn y coetir bach hwn, sy'n swatio rhwng y stadau preswyl yn Nhre-gŵyr, ceir 7 cochwydden enfawr, cypreswydd Monterey, cedrwydd cochion, planwydd Llundain, masarn Norwy, cedrwydd yr India a phinwydd Himalaiaidd. Mae rhes o ffynidwydd yn ymylu'r coetir. Yn ogystal â hynny, mae'r coed Prydeinig naturiol sydd wedi bwrw had yno: y fedwen arian, y dderwen, y fasarnen, y boplysen lwyd, y gelynnen, yr ywen, yr onnen a'r rhododendron. Mae'n gartref i adar ac ystlumod, etc. Yn y gwanwyn, ceir cennin Pedr a chlychau'r gog ar hyd y llwybrau. Cedwir peth mieri o hyd ar gyfer yr adar.

Mae'r rhodfa wreiddiol a llwybrau pridd eraill yn y goedwig wedi cael eu defnyddio am dros 100 o flynyddoedd gan bobl leol fel llwybr byr i'r ysgol a'r siopau lleol ac i fynd â chŵn am dro.

Cyfleusterau

Llwybrau pridd/sglodion pren, arwyddion cyfeirio ac amgylcheddol. Gât haearn wrth y fynedfa. Biniau.

Hygyrchedd

The Friends of Gowerton Woodlands (Yn agor ffenestr newydd) Mae'r Grŵp Cyfeillion Coetir Tre-gŵyr yn gweithio i gynnal hygyrchedd, ond weithiau yn ystod misoedd y gaeaf, mae rhai mannau yn eithaf corslyd ac eir i'r afael â hyn yn y tymor hir. Ar fynedfeydd ochr, ceir barrau mynediad i atal cerbydau.

Gwybodaeth am fynediad

Mae'r prif fynediad drwy gât haearn ger Bryn-y-môr Road, sydd ag arwyddion. Mae'r mannau mynediad eraill drwy lonydd bach o'r stadau preswyl cyfagos yng Nghlos Bevan, William Bowen Close a Roper Wright Close.

Y prif gyfeiriad fyddai'r fynedfa â gatiau oddi ar Bryn-y-môr Road, Tre-gŵyr SA4 ac mae lleoedd i barcio ar y ffordd.

Côd post - SA4

Close Dewis iaith