Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Compass Independent Living

Mae Compass Independent Living yn rhan o Compass Disability Services, sefydliad a arweinir gan gwsmeriaid yng Ngwlad yr Haf sy'n darparu gwasanaethau ledled y wlad.

Rydym yn darparu gwasanaethau sy'n cefnogi pobl sy'n derbyn pecynnau gofal iechyd a/neu gymdeithasol (taliad uniongyrchol neu Gyllideb Iechyd Bersonol y GIG) neu unigolion sy'n ariannu eu gofal eu hunain i reoli eu gofal mewn ffordd sy'n rhoi dewis iddynt a rheolaeth dros eu bywydau.

Gallwn:

  • egluro sut mae Cynllun y Taliad Uniongyrchol/Cyllideb Iechyd Bersonol yn gweithio
  • trafod yr opsiynau sydd ar gael o ran cyllideb bersonol
  • eich cynghori ar sut y gallech ddefnyddio'ch cyllideb bersonol i gyflogi Cynorthwyydd Personol o ran talu trethi ac yswiriant gwladol i CThEM
  • arweiniad ar roi Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwyr ar waith
  • cynghori ar ddeddfwriaeth gyflogaeth, e.e. isafswm cyflog cenedlaethol, hawliau statudol gweithwyr, contractau cyflogaeth, etc.
  • cynorthwyo wrth gyflogi Cynorthwyydd Gofal neu Gynorthwyydd Personol
  • rhoi arweiniad ar gadw cofnodion ariannol
  • gweithio gyda chi i ddatblygu'ch cynllun gofal a rhoi cefnogaeth barhaus (lle bo angen)
  • eich helpu i ddod o hyd i'r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch (broceriaeth)

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cyflogres a/neu wasanaethau cyfrifon a reolir.

 

Enw
Compass Independent Living
Gwe
https://compassindependentliving.org.uk/
Rhif ffôn
01823 255905
Ffacs
01823 351790
Close Dewis iaith